Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
“Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang”
Mae Cymru’n unigryw yn y byd yn y modd y dengys ymrwymiad hollgynhwysfawr i’r Cenhedloedd Unedig, ac mae ein cyfraniad i’r rhain wedi cael ei gydnabod.
Mae dadansoddiad cyfredol y Comisiynydd yn dangos bod amcanion a chamau sy’n berthnasol i fod yn gyfrifol ar lefel byd-eang yn amrywio, ac nad yw cyrff cyhoeddus yn dangos yn glir na chredadwy eu cyfraniadau cadarnhaol i’r byd.
Dylem i gyd fod yn meddwl a gweithredu mewn ffordd sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Y man cychwyn yw cael dealltwriaeth glir o’r diffiniad o’r nod llesiant, fel bod unrhyw weithredu i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn ystyried a allai gwneud y fath beth fod yn gyfraniad cadarnhaol i lesiant byd-eang.