Gymru Iachach
“Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol”
Dadansoddiad cyfredol y Comisiynydd yw bod yna dystiolaeth gadarn nad ydym yn buddsoddi yn y cytbwysedd gorau rhwng gwasanaethau i gadw pobl yn iach a’u galluogi i fyw bywydau iach a boddhaol.
Mae llawer o amcanion llesiant a chamau’n cydnabod yr angen i symud tuag at atal a lles, ond mae angen mynd ymhellach yn y modd y maent yn ariannu’r ymyriadau hyn ac yn trawsnewid y ffordd y maent yn cyflwyno gwasanaethau. Fel canlyniad, mae’r agenda atal yn methu symud ymlaen ar y raddfa a’r cyflymdra sydd eu hangen ac nid yw wedi ei ffocysu ar benderfynyddion ehangach iechyd.