Cymru lewyrchus
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith teg.
Dadansoddiad cyfredol y Comisiynydd yw nad yw cyrff cyhoeddus yn dangos dealltwriaeth glir o ddiffiniad llawn y nod hwn.
Tra bo’r term ‘llewyrchus’ yn cael ei grybwyll yn aml yn amcanion llesiant cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, mae ei ddefnydd yn cyfeirio’n gyffredinol at addysg, cyflogaeth, tlodi neu Gynnyrch Domestig Gros. Golyga hyn eu bod yn colli rhai pynciau a amlinellir yn y ‘Siwrnai tuag at Gymru Lewyrchus’, sy’n deillio o’r diffiniad llawn o’r nod llesiant. Mae hyn yn cynnwys: gwaith gweddus, cymdeithas garbon isel, caffael teg a lleol, economïau lleol, sgiliau ar gyfer y dyfodol a defnyddio adnoddau’n effeithlon (economi cylchol).
Cyn hyn mae’r Comisiynydd wedi argymell tra bo bargeinion dinesig a rhaglenni datblygu economaidd eraill ledled Cymru’n symud ymlaen, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol sy’n ymgyfrannu ddangos drostynt eu hunain sut y maent yn cymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn arbennig, dylent fyfyrio ar y diffiniad statudol o Gymru Lewyrchus, yn ogystal â darbwyllo Llywodraeth y DG bod angen i’r fframwaith mwy blaengar hwn gael ei fabwysiadu.