Gymru o Gymunedau Cydlynys
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da
Mae dadansoddiad cyfredol y Comisiynydd yn dangos bod cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gosod mwy o amcanion llesiant ar y thema o ‘gymuned’ nag unrhyw bwnc arall. Mae’n galonogol i weld y ffocws gan gyrff cyhoeddus ar y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Tra bo llawer o fentrau da yn ffocysu ar lesiant cymunedol, mae angen i ni yn awr adeiladu ar hyn i gyflwyno ymagwedd glir tuag at gynllunio, defnyddio adnoddau a chyflawni gwasanaethau a seilwaith o fewn cymunedau.
Mae’r argyfwng COVID-19 wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cyrff cyoeddus yn gweithio’n agos gyda mentrau helpu-cymunedau yn eu hardaloedd, yn arbennig mewn cysylltiad â phobl agored i niwed a phobl unig, a dylai hyn barhau tu hwnt i’r pandemig a helpu i gysylltu cymunedau Cymru.