Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

“Wrth i mi ddechrau fy nhymor fel y Comisiynydd newydd, rwyf wedi nodi uchelgais i Gymru deimlo’n wahanol. Dwi eisiau i bobl gyrraedd yma yng Nghymru a theimlo chwa o awyr iach, teimlo rhywbeth unigryw am y wlad yma. Ac mae’r unigrwydd hwnnw wir yn rhoi lles ein pobl a’n planed yn gyntaf. Rwyf am i bawb yng Nghymru deimlo manteision y Ddeddf yn eu bywydau dydd-i-ddydd a theimlo fel bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gweithio’n galed iddyn nhw, ac i bawb.”

Beth yw rôl y Comisiynydd?

Fy ngwaith i yw bod yn warchodwr cenedlaethau’r dyfodol. Mae hynny’n golygu helpu cyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n gwneud polisi yng Nghymru i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau.

Er enghraifft, os ydym yn gwybod y gallai tua 35% o swyddi yn y DU ddiflannu o ganlyniad i robotiaid, deallusrwydd artiffisial neu gyfrifiaduron, beth mae hynny’n mynd i’w olygu i chi, eich plant a’ch wyrion ac wyresau?

Rydym yn gwybod y byddwn yn byw’n hirach, ond a ydym am fyw bywydau iach, actif ynteu a ydym yn mynd i fyw gyda salwch a chyflyrau iechyd hirdymor?

Mae gwir angen i gyrff cyhoeddus ganolbwyntio ar sut mae eu penderfyniadau yn mynd i gael effaith hirdymor, a gweithio gyda’i gilydd i atal problemau rhag digwydd, gan gydnabod na all unrhyw gorff cyhoeddus unigol ar ben ei hun ymateb i rai o’r heriau mawr a wynebwn.

Mae gennym i gyd ran i’w chwarae wrth adeiladu’r Gymru yr ydym am ei gweld yn y dyfodol.

Pwy yw'r Comisiynydd presennol?

Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae’r rôl yn rhoi cyngor a chefnogaeth i'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus i gymryd gweledigaeth hirdymor ar benderfyniadau polisi. Gwaith y comisiynydd yw diogelu a hyrwyddo anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Derek Walker yw’r ail Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ar ôl dechrau’r rôl ar 1af o Fawrth 2023, pan alwodd am ‘newid bryd a thrawsnewidiol’ yng Nghymru.

Cyn hynny, ef oedd prif weithredwr Cwmpas, asiantaeth datblygu fwyaf y DU. Treuliodd Derek 12 mlynedd fel Prif Swyddog Gweithredol, yn gweithio i gefnogi pobl a cymunedau i greu swyddi a chryfhau cymunedau, a newidiodd ffocws y sefydliad ar ddatblygu sy’n diwallu anghenion y cenedlaethau’r presennol heb gyfaddawdu ar anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Dechreuodd Derek ei yrfa fel swyddog polisi i Gynghorau Llundain, yn Llundain a Brwsel. Mae hefyd wedi gweithio fel Pennaeth Materion Allanol yn y Gronfa Loteri Fawr (Cymru), fel Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd yn TUC Cymru ac ef oedd cyflogai cyntaf Stonewall Cymru.

Magwyd Derek ar fferm ger Cwmbrân ac mae’n rhedwr brwd a chwaraewr tenis, wrth ei fodd yn darllen ac yn ddysgwr Cymraeg. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’r bartner Mike ac mae ganddo ddau o blant.

Ei uchelgais tra yn Ysgol Gyfun Croesyceiliog oedd bod yn newyddiadurwr ac mae ganddo radd Meistr mewn Newyddiaduraeth Ryngwladol o Brifysgol Caerdydd.

Mae'n hapus sut mae bywyd wedi troi allan ac mae’n dweud mai bod yn warcheidwad buddiannau pobl sydd heb eu geni eto yw’r fraint fwyaf.

Beth yw pwerau a dyletswyddau’r Comisiynydd?

Fy nyletswyddau cyffredinol yw:

“Hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn benodol i weithredu fel gwarcheidwad gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion ac annog cyrff cyhoeddus i roi mwy o ystyriaeth i effaith hirdymor yr hyn a wneir ganddynt.”

“Monitro ac asesu i ba raddau y mae’r nodau llesiant a osodwyd gan gyrff cyhoeddus yn cael eu gwireddu.”

Gallaf:

  • Ddarparu cyngor i gyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Gynnal adolygiadau o sut mae cyrff cyhoeddus yn cymryd i ystyriaeth effaith hirdymor eu penderfyniadau
  • Gwneud argymhellion yn dilyn adolygiad

Diffiniwyd diben fy sefydliad fel a ganlyn:

Amlygu materion

Amlygu’r materion pwysig, yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol

Cefnogi a herio

Cefnogi a herio cyrff cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor y pethau y maent yn eu gwneud

Gweithio gyda’n gilydd

Cefnogi a herio cyrff cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor yr hyn a wneir ganddynt

Gweithredu yn ogystal â thrafod

Gweithredu yn ogystal â thrafod – ysgwyddo’r hyn yr ydym yn dymuno ei weld mewn eraill

 

Pa bwerau sydd gan y Comisiynydd?

Fel Comiysinydd, rhaid i mi hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gweithredu fel gwarcheidwad cenedlaethau’r dyfodol ac annog cyrff cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau. I wneud hyn, mae’r gyfraith yn caniatáu i’r Comisiynydd:

  • Rhoi cyngor neu gymorth i gorff cyhoeddus;
  • Rhoi cyngor i Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr egwyddor datblygu cynaliadwy;
  • Rhoi cyngor neu gymorth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â pharatoi ei chynllun llesiant lleol;
  • Rhoi cyngor neu gymorth i unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei f/bod yn cymryd (neu’n dymuno cymryd) camau a allai gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant;
  • Annog arfer gorau ymhlith cyrff cyhoeddus wrth gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth ymysg cyrff cyhoeddus o’r angen i gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
  • Annog cyrff cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd a gyda phersonau eraill pe gallai hyn eu cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion llesiant;
  • Ceisio cyngor panel cynghori mewn perthynas ag arfer unrhyw un o swyddogaethau’r Comisiynydd.

Gallaf hefyd gynnal ymchwil i ddarganfod i ba raddau y mae’r nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol yn gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn ogystal ag i ba raddau y mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy’n cael ei hystyried mewn dangosyddion cenedlaethol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn olaf, gallaf gynnal adolygiadau ffurfiol i roi mewnwelediad iddi ar sut mae cyrff cyhoeddus yn cymhwyso’r Ddeddf. Fodd bynnag, mae’n bwysig i nodi nad yw cynnal adolygiad yn caniatáu imi wyrdroi penderfyniadau penodol a wnaed eisoes. Mae’n fecanwaith i ddarganfod a yw cyrff cyhoeddus yn amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol ac i wirio a ydynt wedi meddwl am effaith hirdymor eu gweithredoedd. Ar ddiwedd adolygiad, gallaf wneud argymhellion i gynghori ar sut y dylai’r corff cyhoeddus gymhwyso’r Ddeddf yn y dyfodol.

Cysylltwch â mi a’m Swyddfa.

Subscribe to our Newsletter

Receive the latest news and updates from The Future Generations Commissioner for Wales

We never share your information.