#2

Penodi pencamwpyr gwerth cymdeithasol

1

Problem

Mewn caffael cyhoeddus, ceir tensiwn parhaus rhwng y gost isaf a chyflawni deilliannau ehangach, a gwelir gwerth am arian ( y pris isaf) fel prif yrrwr o hyd. Bydd ail-ganolbwyntio caffael ar gynaliadwyedd a gwerth cymdeithasol, yn hytrach nag ar gost yn unig, yn helpu i wrthbwyso hyn.

2

Newid Syml

Gall penodi pencampwyr gwerth cymdeithasol godi ymwybyddiaeth o werthoedd cymdeithasol mewn cyrff cyhoeddus, a’u helpu i wreiddio. Gallant hefyd ddarparu pwynt cyswllt ar gyfer sefydliadau gwerth cymdeithasol, gan alluogi cyrff cyhoeddus i adeiladu perthynas a deall mwy am gyfleoedd allweddol.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru lewyrchus

Cymru lewyrchus,

You have earned...

Cymru lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang,

You have earned...

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang