#20

Mabwysiadu polisi plastig un-defnydd, er mwyn dileu plastig un-defnydd o’ch ystâd

1

Problem

Mae dros 8 miliwn tunnell o blastig yn cael ei ollwng i’n cefnforoedd bob blwydd, ac mae hanner hwnnw’n blastig sy’n cael ei daflu ar ôl ei ddefnyddio ond unwaith, ‘er cyfleuster’. Ar hyn o bryd, dim ond 32% o’r plastig a ddefnyddir gennym yma yng Nghymru sy’n cael ei ailgylchu; mae llawer ohono’n dal i fynd i safleoedd tirlenwi, neu’n cael ei losgi. Mae’r mathau hyn o blastig un-defnydd yn cynrychioli gwastraff adnoddau enfawr, cost i drethdalwyr am driniaethau gwastraff, maen nhw’n mynd i mewn i’r gadwyn fwyd, yn niweidio ein bywyd gwyllt, ac erbyn hyn mae’r cemegau’n treiddio i’n dŵr

2

Newid Syml

drwy fabwysiadu polisi dim plastig un-defnydd yn eich sefydliad, bydd modd i chi fesur ac archwilio’r defnydd o blastig un-defnydd yn eich sefydliad, gosod targedau ar gyfer lleihau’r defnydd a dileu eu defnyddio’n llwyr dros amser, drwy ddod o hyd i bethau amgen i’w defnyddio.

Gwirfoddolwyr yw grŵp Beautiful Barry

Gwirfoddolwyr yw grŵp Beautiful Barry sy’n glanhau’r traethau ac yn ceisio’u cadw’n rhydd o blastig, ac atal y plastig rhag cyrraedd y cefnfor. Yn ei dro, mae hyn yn cadw’r Barri’n lân, yn daclus ac mae’n helpu’r amgylchedd. Mae’r fideo hwn yn dangos pam y gall mynd yn ddi-blastig fod o fudd i gyrff cyhoeddus a chymunedau yng Nghymru.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru gydnerth

Cymru gydnerth,

You have earned...

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang,

You have earned...

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang

Cymru iachach

Cymru iachach,

You have earned...

Cymru iachach

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol