#6

Dod yn gyflogwgr Cyflog Byw

1

Problem

Gan weithwyr Cymru y mae’r gyfradd isaf o gyflog yn weddill yn y DU, gydag enillion cyfartalog i weithwyr llawn amser yn £498.40, dros £50 yn llai na’r DU yn gyfan.

2

Simple Change

Mae’n hanfodol fod gwasanaethau cyhoeddus Cymru’n gweithredu’r bregeth o ran ein gwerthoedd sector cyhoeddus. Mae hyn yn golygu talu cyflog byw i bob gweithiwr. Nid yn unig dyma’r peth cywir i’w wneud, ond mae hefyd yn gwneud synnwyr busnes da. Dywedodd 86% o fusnesau achredig ei fod wedi gwella enw da’r busnes, a dywedodd 75% ei fod wedi gwella ysgogiad a chyfraddau cadw cyflogeion.

Dod yn gyflogwgr Cyflog Byw

Gall talu’r cyflog byw wneud gwahaniaeth gwirioneddol i lesiant ein gweithwyr. Cynnal Cymru yw corff achrededig Cyflog Byw Cymru ac maen nhw’n annog pob corff cyhoeddus i ddod yn gyflogwyr achrededig.

Resources

More Information about: Dod yn gyflogwgr Cyflog Byw

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru lewyrchus

Cymru lewyrchus,

You have earned...

Cymru lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang,

You have earned...

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang

Cymru sy’n fwy cyfartal

Cymru sy’n fwy cyfartal,

You have earned...

Cymru sy’n fwy cyfartal

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)