#28
Adeiladu darlun o pa mor hawdd yw hi yn eich gweithle chi i bobl sydd eisiau cerdded, seiclo neu ddefnyddio ac adnabod meysydd ble gellir gwella
Problem
Mae teithio iach – cerdded, seiclo, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer rhan o’r siwrne – yn ffordd lawer iachach a mwy cynaliadwy o fynd a dod i’r gwaith. Ond i lawer, mae rhwystrau’n bodoli sy’n eu hatal rhag peri i hyn ddigwydd.
Newid Syml
Drwy gael dealltwriaeth glir o ddewisiadau teithio pobl, dysgu sut y gall eich staff ddod i’r gwaith, gallwch adnabod y rhwystra sy’n eu rhwystro ar hyn o bryd rhag cerdded, seiclo, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu rannu car. Gallwch werthuso a oes unrhyw beth y gall eich sefydliad ei wneud i wneud hynny’n haws; mae darparu lle diogel i gyflogeion gadw’u beiciau, ad-dalu teithio iach pan fydd pobl ar fusnes, buddsoddi mewn beiciau cronfa neu system seiclo i’r gwaith oll yn ffyrdd rhagorol o ddangos y gwerth y mae eich sefydliad yn ei roi ar wneud dewisiadau iach, cynaliadwy.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru iachach
You have earned...
Cymru iachach
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol