#57
Ystyried y cyfleoedd i gefnogi a datblygu clybiau lleol sy’n ymwneud â chwaraeon.
Problem
Dim ond 29% o oedolion rhwng 34-65 oed yng Nghymru sy’n cymryd rhan mewn rhyw fath o weithgaredd chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu ragor. Dyw 53% ddim yn gwneud unrhyw weithgaredd rheolaidd. Ond mae clybiau chwaraeon yn darparu ymdeimlad o dderbyn, grymuso a pherthyn, ac maen nhw’n chwarae rhan enfawr mewn diffinio cymuned.
Newid Syml
Mae bod yn rhan o glwb chwaraeon yn lles i’n hiechyd ond mae hefyd yn cefnogi llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ehangach hefyd. Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn amrywio yn ôl rhyw, oedran, ethnigrwydd, anabledd, daearyddiaeth a lefel gymharol o amddifadedd. Mae’n bwysig eich bod chi’n lleihau’r amrywiaethau hyn hyd eithaf eich gallu, gan sicrhau fod clybiau cymunedol amrywiol ar gael i gwrdd ag anghenion pobl.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
You have earned...
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden
Cymru iachach
You have earned...
Cymru iachach
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol