#37
Sicrhau fod gweithwyr yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches
Problem
Derbyniwyd o leiaf 325 o ffoaduriaid gan gynghorau yng Nghymru yn ystod 2017. Mae’n bwysig datblygu dealltwriaeth sylfaenol o bobl sy’n ceisio lloches, yn enwedig am fod y niferoedd yn rhwym o gynyddu yn y dyfodol. Gall bod yn ymwybodol o’r derminoleg sy’n ymwneud â’r gwahaniaeth rhwng ceiswyr lloches, ffoaduriaid ac ymfudwyr gefnogi pobl i gael sgyrsiau doethach am y gwasanaethau sy’n agored iddyn nhw.
Newid Syml
Yn aml bydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn mwy o berygl o ddioddef iechyd meddwl drwg neu gael eu hynysu. Drwy gynnig hyfforddiant i staff, gallwch leihau peryglon eithrio a dangos sut y mae eich sefydliad yn deall anghenion pobl sy’n ceisio lloches.
Astudiaeth Achos
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru sy’n fwy cyfartal
You have earned...
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)
Cymru o gymunedau cydlynus
You have earned...
Cymru o gymunedau cydlynus
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da