#48
Annog cyfleoedd trafnidiaeth cymunedol
Problem
Mae cysylltu trigolion lleol â chyfleoedd yn nodwedd bwysig o gymuned gydlynus. Gall trafnidiaeth gymunedol fod yn fodd i fyw i breswylydd nad oes ganddo gar neu ble mae trafnidiaeth gyhoeddus yn brin. Yn aml, dyma’r unig fodd o deithio sydd ar gael i lawer o bobl fregus ac ynysig, sy’n debygol o fod yn bobl hŷn neu’n bobl ag anableddau. Gan ddefnyddio popeth o fysiau mini i fopeds, bydd gwasanaeth arferol yn cynnwys cynlluniau ceir gwirfoddol, gwasanaethau bws cymunedol, trafnidiaeth ysgol, cludiant i ysbytai, deialu am reid, olwynion i’r gwaith a gwasanaethau llogi grŵp.
Newid Syml
Mae angen i gyrff cyhoeddus ddeall pwysigrwydd rhwydweithiau trafnidiaeth gymunedol sy’ gweithredu, a chael sgyrsiau â phobl leol i archwilio ffyrdd o helpu pobl i gadw’u hannibyniaeth, cyfranogi yn eu cymunedau a chael mynediad i wasanaethau cyhoeddus hanfodol a chyfleoedd gwaith..
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru o gymunedau cydlynus
You have earned...
Cymru o gymunedau cydlynus
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da
Cymru iachach
You have earned...
Cymru iachach
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol
Cymru sy’n fwy cyfartal
You have earned...
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)