#82

Annog staff i gynnal cyfarfodydd mewn siopau coffi lleol ac annibynnol a chaffis

1

Problem

Mae’r diwylliant cyfarfod o fewn y sector cyhoeddus yn dal yn adnodd hynod anghynaliadwy, gydag un Cyngor Sir yn y DU yn datgan eu bod wedi gwario dros £250,000 y flwyddyn ar logi stafelloedd cyfarfod allanol. Beth petaem ni’n gwario’r arian hwnnw’n lleol?

2

Newid Syml

Yn y mannau lle mae’n arferol i staff gynnal cyfarfodydd mewn siopau coffi a chaffis, dylech ddatblygu rhestr o fusnesau bach o fewn eich ardal ac annog y staff i’w cefnogi. Mae hyn yn dangos sut mae eich sefydliad yn cynorthwyo busnes lleol, tra hefyd yn dangos eich ymrwymiad i ddod yn rhan o’r gymuned.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru lewyrchus

Cymru lewyrchus,

You have earned...

Cymru lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu,

You have earned...

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden