#26
Annog eich cyflogeion i gymryd seibiant a bwyta i ffwrdd o’u desgiau
Problem
Mae’r gweithiwr cyffredin Prydeinig yn cymryd prin 34 munud ar gyfer amser cinio ar gyfartaledd, gyda mwy na hanner yn hepgor eu hamser cinio’n llwyr. Gwyddom fod creadigrwydd ac arloesi’n digwydd pan fydd pobl yn newid eu hamgylchedd, yn enwedig pan fyddan nhw’n dod yn agored i’r amgylchedd naturiol. Mae bwyta oddi wrth eich desg yn helpu i greu ymdeimlad o gymuned, wrth i bobl gymryd eu hamser i ddod i adnabod eu cydweithwyr yn anffurfiol. Dengys astudiaethau hefyd fod cynnydd mewn cynhyrchiant, a bod y saib corfforol oddi wrth eich desg yn helpu eich meddwl a’ch corff i orffwys.
Newid Syml
Drwy annog eich gweithwyr i gymryd eu seibiannau, rydych chi’n dangos eich bod chi’n rhoi gwerth ar eu llesiant personol.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru iachach
You have earned...
Cymru iachach
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
You have earned...
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang