#56
Sicrhau fod lleoliadau celfyddydol yr ydych chi’n gweithio gyda nhw’n rhan o’r Cynllun Mynediad Cenedlaethol (Hynt)
Problem
Mae pobl ag anabledd (salwch hir, problem iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar weithgareddau beunyddiol) yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgaredd celfyddydol (37%) na phobl heb anabledd (42%). Hynt yw’r cynllun mynediad cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydol yng Nghymru i sicrhau fod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr â nam neu angen mynediad penodol, a’u Cynorthwywyr Personol neu Ofalwyr.
Newid Syml
Drwy sicrhau fod y lleoliadau celfyddydau yr ydych chi’n gweithio gyda nhw wedi cofrestru gyda Hynt, rydych chi’n sicrhau fod y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru’n fwy cydradd a chynhwysol ac y gall pawb yng Nghymru brofi ehangder a dyfnder y cynigion diwylliannol a gynigir gan yr adeiladau hyn yn eu cymunedau.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
You have earned...
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden
Cymru iachach
You have earned...
Cymru iachach
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol
Cymru sy’n fwy cyfartal
You have earned...
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)