#8
Sicrhau fod pob datblygiad newydd ac ôl-osod cyfleusterau sy’n bodoli eisoes yn ystyried ffynonellau ynni adnewyddadwy a deunyddiau a ailgylchwyd
Problem
Drwy’u hystadau a’u cyfleusterau yng Nghymru, mae gan gyrff cyhoeddus gyfle i wreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn gwneud yn fawr o’u cyfraniad i’r nodau llesiant. Gall hyn gynnwys deunyddiau a ailgylchiwyd, celfi swyddfa, paneli solar, mesurau arbed ynni ac insiwleiddio, ar dir, adeiladau a chyfleusterau cyhoeddus.
Simple Change
Wrth weithio ar brosiect neu ddatblygiad newydd, mae’n bwysig ystyried ôl-osod cyfleusterau sy’n bodoli eisoes. Mae hyn yn cynnwys celfi swyddfa, paneli solar, mesurau arbed ynni ac insiwleiddio, ar dir, adeiladau a chyfleusterau cyhoeddus.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru lewyrchus
You have earned...
Cymru lewyrchus
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas