#64

Sicrhau fod eich sefydliad yn cymryd rhan ym Mhythefnos Masnach Deg

1

Problem

Mae teiran o boblogaeth y byd yn byw ar lai nag un ddoler y dydd, ac mae’r system fasnachu bresennol yn eu methu. Gall Masnach Deg helpu i newid hyn. Mae pwrs cyhoeddus Cymru, sy’n werth £6 biliwn, yn offeryn grymus i ddarparu cynaliadwyedd amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd. Y tu ôl i bopeth yr ydym ni’n prynu, mae person, a thrwy dalu pris teg i’r person hwnnw am nwyddau, gallwn ei gefnogi i anfon ei blant i’r ysgol, rhoi bwyd ar y bwrdd a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

2

Newid Syml

Drwy ddysgu am Fasnach Deg a chymryd rhan yn y gweithgaredd cyffrous blynyddol hwn, gallwn ddysgu mwy am sut y cynhyrchir ein cynnyrch beunyddiol, ac am fywydau’r bobol yr ydym ni’n dibynnu arnyn nhw. Drwy gefnogi Masnach Deg rydych chi’n grymuso miliynau o gynhyrchwyr ledled y byd i gymryd gafael ar eu dyfodol a datblygu’u cymunedau.

Mhythefnos Masnach Deg

Before you finish eating breakfast, you've depended on more than half the world.“
Martin Luther King

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang,

You have earned...

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang

Cymru gydnerth

Cymru gydnerth,

You have earned...

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)