#81

Archwilio’r posibilrwydd o gynnig rhannu desg neu gyfleusterau cynadledda fideo gyda chyrff cyhoeddus eraill

1

Problem

Mae trafnidiaeth ar hyn o bryd yn cyfrif am 14% o’n hallyriadau carbon yng Nghymru ac er mwyn cwrdd â’r targedau lleihau carbon mae angen newidiadau cyn y medrwn wireddu’r targed o leihad o 43% mewn allyriadau carbon erbyn 2030. Gallai gweithio o’r cartref arwain at arbedion blynyddol o dros 3 miliwn tunnell o garbon a chwtogi costau o £3 biliwn yn y DU.

2

Newid Syml

Wrth i ni ymateb i’r byd gwaith sy’n newid, mae’n bwysig eich bod yn cynnig dewisiadau hyblyg i’ch staff. Drwy gynnig polisi sy’n caniatáu ac annog eich gofod swyddfa i gael ei ddefnyddio ar gyfer rhannu desg, gwirfoddoli i rannu eich cyfleusterau cynadledda fideo, hwyluso cydweithio a chael polisi gwaith hyblyg, rydych yn helpu i gwtogi ar allyriadau carbon o deithio dianghenrhaid, yn ogystal ag arbed costau staff a’ch busnes

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru gydnerth

Cymru gydnerth,

You have earned...

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)

Cymru lewyrchus

Cymru lewyrchus,

You have earned...

Cymru lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas

Cymru iachach

Cymru iachach,

You have earned...

Cymru iachach

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol