#58
Rhoi mynediad rhad ac am ddim i ParkRun ar unrhyw dir cyhoeddus
Problem
Mae gordewdra yn duedd sydd ar gynnydd ac sy’n gwaethygu yn y DU< ac erbyn 2050, gallai hyd at 50% o bobl ifanc ac oedolion fod yn or-dew. Mae Parkrun bellach yn gweithredu mewn mwy na 570 o leoliadau ar draws y DU ac mae’n ffordd ardderchog o ddod â’r gymuned ynghyd drwy ymarfer corff. Mae angen i ni sicrhau fod ein lleoedd cyhoeddus yn rhai sy’n annog ac yn hwyluso pobl i’w defnyddio i wneud ymarfer, i wella’u hiechyd meddwl a’u cyrff.
Newid Syml
Drwy roi mynediad rhad ac am ddim i Park Run ar unrhyw dir sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus, rydych chi’n dangos sut y mae cyrff cyhoeddus Cymru’n ymrwymedig i wneud gweithgaredd corfforol yn rhan o fywydau pob un ohonom.
Rhoi mynediad rhad ac am ddim i ParkRun ar unrhyw dir cyhoeddus
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
You have earned...
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden
Cymru iachach
You have earned...
Cymru iachach
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol