#39
Rhoi mentrau ar waith i recriwtio pobl o blith grwpiau a dangynrychiolir yn eich gweithlu
Problem
Roedd y bwlch cyflogaeth rhwng oedolion gwyn cyflogedig ac oedolion cyflogedig o leiafrifoedd ethnig yn 13% yn 2017.
Newid Syml
Bydd adrodd statudol ar ddemograffeg yn y gweithle yn datgelu pa grwpiau a dangynrychiolir. Mae nifer o weithredodd y gallwch chi eu gwneud, neu fentrau y gallwch eu datblygu, i ymestyn i grwpiau a dangynrychiolir, fel: cael presenoldeb mewn digwyddiadau recriwtio, cynnig prentisiaethau, lleoliadau gwaith neu gyfleoedd hyfforddi ehangach. Bydd hyn yn sicrhau fod eich sefydliad yn adlewyrchu amrywiaeth eich cymuned ac yn darparu gwell gwasanaethau ar gyfer pawb.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru sy’n fwy cyfartal
You have earned...
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)
Cymru lewyrchus
You have earned...
Cymru lewyrchus
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas
Cymru o gymunedau cydlynus
You have earned...
Cymru o gymunedau cydlynus
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da