#31

Gwneud gwybodaeth gyhoeddus yn hygyrch drwy amrywiaeth o fformatau

1

Problem

Mae llawer o bobl â diffygion ar eu synhwyrau, neu sy’n profi rhwystrau eraill i gyfathrebu, yn llai abl i ddeall gwybodaeth ‘draddodiadol’ am wasanaethau cyhoeddus, i lenwi ffurflenni neu i wybod sut i gymryd meddyginiaeth a ragnodwyd iddynt. Gall hyn adael pobl yn teimlo’n ddryslyd, yn ddi-rym neu’n ‘llai o berson’.

2

Newid Syml

mae gwneud eich gwybodaeth gyhoeddus yn hygyrch drwy amrywiaeth o fformatau, fel braille, Iaith Arwyddo Prydeinig, cyfieithu i ieithoedd cymunedol a thestun di-jargon, yn helpu i sicrhau fod ystod eang o bobl yn gallu cael mynediad i wybodaeth berthnasol ac ymgysylltu’n effeithio gyda’u gwasanaethau. Dylid ystyried oblygiadau cost ac amser hyn i’ch gwaith a’i gynnwys yn gynnar yn y broses, fel nad yw’n cael ei ystyried fel ychwanegiad.

Gwneud gwybodaeth gyhoeddus yn hygyrch drwy amrywiaeth o fformatau

Mae sefydliadau fel Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol y Deillion (RNIB), Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chanolfan y GIG dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol yn deall ac yn esbonio pam ei bod hi mor bwysig gwneud eich gwybodaeth yn hygyrch i bawb.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru sy’n fwy cyfartal

Cymru sy’n fwy cyfartal,

You have earned...

Cymru sy’n fwy cyfartal

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)

Cymru o gymunedau cydlynus

Cymru o gymunedau cydlynus,

You have earned...

Cymru o gymunedau cydlynus

Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da