#9
Gwneud yn fawr o’r potensial ar gyfer prentisiaethau yn eich sefydliad
Problem
Drwy gydol 2017. Edrychodd y Pwyllgor Economi, Isadeiledd a Sgiliau ar brentisiaethau yng Nghymru. Canfu’u gwaith mai dim ond 1.3% o bob prentis yng Nghymru sy’n anabl. Mae anghyfartaleddau enfawr yn dal i wynebu pobl ifanc sy’n ceisio mynediad i waith, ac mae prentisiaethau’n aml yn ffordd dda o ddymchwel y rhwystrau hynny.
Newid Syml
Drwy wneud yn fawr o botensial prentisiaethau yn eich sefydliad, gallwch sicrhau eich bod chi’n cynnig cyfleoedd i bawb fod yn rhan o’r hyn yr ydych chi’n ei wneud. [ymuno â’ch sefydliad]
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru lewyrchus
You have earned...
Cymru lewyrchus
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
You have earned...
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden