#34
Hybu cyfleoedd i rannu swyddi ymysg cynrychiolwyr etholedig, fel cynghorwyr
Problem
Mae sawl rhwystr yn dal i fodoli mewn cymdeithas sy’n atal pobl o rai grwpiau rhag cyflawni rolau arwain. Mae hyn yn arbennig o wir ym maes gwleidyddiaeth leol a chynrychioli cymunedau. Dengys ymchwil y bydd hi’n cymryd 82 o flynyddoedd yng Nghymru (o’i gymharu â 48 yn Lloegr) i gyrraedd cyfartaledd rhyw ar lefel llywodraeth leol, a nododd adroddiad “A yw Cymru’n Decach?” yn 2015 fod menywod, pobl anabl, pobl ifanc, pobl o leiafrifoedd ethnig neu grefyddol, a phobl LGBT yn dal i gael eu tan-gynrychioli ar bob lefel wleidyddol yng Nghymru.
Newid Syml
Drwy hybu cyfleoedd i rannu swyddi, gallwch annog ystod fwy amrywiol o bobl i fynd i mewn i wleidyddiaeth leol a chynrychioli’u cymunedau.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru sy’n fwy cyfartal
You have earned...
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)