Newid Syml #16
Cynnwys addysg ‘isadeiledd gwyrdd / bioamrywiaeth’ ar gyfer staff ar draws POB adran
Problem
Isadeiledd Gwyrdd yw’r ffordd fwyaf syml, hardd ac effeithiol o leddfu heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol lluosog ac mae’n cyd-fynd â’r isadeiledd trefol presennol. Erys diffyg ymwybyddiaeth ar raddfa eang ynghylch pwysigrwydd bioamrywiaeth.
Simple Change
Drwy gefnogi pob aelod o staff i gyfranogi a deall y materion hyn, byddwch chi’n helpu i wreiddio gwybodaeth ac ymwybyddiaeth drwy’r holl broses gwneud penderfyniadau ar draws pob lefel a maes gwaith, er mwyn i gynlluniau, polisïau a datblygiadau gyflawni mwy o les cyhoeddus nag a fyddai’n bosib fel arall drwy gyfrwng dulliau traddodiadol ‘busnes-fel-arfer’
Astudiaeth Achos
Pwy sy’n gwneud hyn?
Sustainable Management of Natural Resources
Cychwynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru ar raglen hyfforddi i’w sefydliadau, sef Sustainable Management of Natural Resources (SMNR) ym mis Medi 2017 ac maen nhw newydd redeg y 50fed cwrs, gyda’r bwriad o hyfforddi’r holl staff o fewn y sefydliad erbyn Chwefror 2019.

Mae’r cwrs yn orfodol i’r holl staff, o’r timau cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Chaffael i’r timau llifogydd, Gweithredwyr a Thimau Trwyddedu. Yn ystod y cwrs, mae timau nad ydynt hwyrach erioed wedi cwrdd, neu weithio gyda’i gilydd cyn hyn, yn sylweddoli sut mae eu rolau’n gorgyffwrdd ac y gallent drwy gydweithio fod wedi lliniaru rhai o’r problemau ar gychwyn y prosiect. Mae’r tîm hyfforddi yn awr yn sylweddoli bod y staff a wnaeth fynychu’r hyfforddiant o’r farn ei fod mor ddefnyddiol i’w gwaith o ddydd i ddydd fel eu bod yn annog eu cydweithwyr i’w fynychu.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru gydnerth
You have earned...
Cymru gydnerth
Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)