#49
Helpwch staff a phreswylwyr i gynilo a benthyca gydag undebau credyd lleol
Problem
Mae gan Gymru rai o’r lefelau uchaf o ddyledion, wrth i fwy na 17% o’r boblogaeth fod mewn dyled ariannol, a’r rhai mewn perygl mwyaf yw oedolion ifanc, pobl sy’n rhentu’u cartrefi, teuluoedd mawr a rhieni sengl.
Mae undebau credyd yn ei gwneud hi’n haws i bobl leol gynilo a benthyca cyllid rhad. Maen nhw’n sefydliadau lleol allweddol sy’n cynnal teuluoedd a chymunedau cryfion. Pan fyddwch chi’n buddsoddi yn eich undeb credyd lleol, byddwch chi’n gwybod mai eich cymdogion neu gydweithwyr sy’n elwa.
Simple Change
Gall cyrff cyhoeddus helpu drwy annog eu staff eu hunain i ymuno â’u hundeb credyd lleol – gan gynnig cyfleusterau didynnu er mwyn galluogi pobl i gynilo’n uniongyrchol a rheolaidd. Gall cyrff cyhoeddus hefyd annog trigolion lleol ac, yn gynyddol, fusnesau bach iawn, i ymuno ag undebau credyd lleol. Gallwch hefyd archwilio ffyrdd o gynnig pwyntiau casglu undebau credyd ble mae llawer o bobl yn tramwyo.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru o gymunedau cydlynus
You have earned...
Cymru o gymunedau cydlynus
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da
Cymru lewyrchus
You have earned...
Cymru lewyrchus
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas