#14

Darparu lle ar gyfer bywyd gwyllt, fel blychau adar, cartrefi i drychfilod, pyllau dŵr a bocsys ystlumod – yn enwedig mewn datblygiadau newydd

1

Problem

Mae adroddiad Cyflwr Natur yn dwyn ynghyd ddata ac arbenigedd gan dros 50 o sefydliadau, gan ddatgelu sut mae hi ar fywyd gwyllt ledled y DU. Mae’n dangos sut y mae llawer o rywogaethau’n dirywio, er enghraifft, mae rhai rhywogaethau o ystlum wedi dirywio 95%, yn bennaf am i’w cynefin ddiflannu.

2

Newid Syml

Drwy greu cartrefi ble bo’n bosib i wenoliaid, ystlumod, tylluanod, gwenyn, gwas y neidr ac eraill, gallwch chi helpu i leihau’r dirywiad hwn.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru gydnerth

Cymru gydnerth,

You have earned...

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)

Cymru iachach

Cymru iachach,

You have earned...

Cymru iachach

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang,

You have earned...

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang