#70
Adolygu eich cytundebau ynni, darparwyr peniwn a’ch portffolios buddsoddi a lleihau eich baich ar y blaned a’i phobl
Problem
Os ydym ni am gwrdd â tharged lleihau allyriadau Llywodraeth Cymru o 80% erbyn 2050, a chwarae ein rhan mewn cwrdd â SDGau’r Cenhedloedd Unedig, rhaid i ni weithredu heddiw. Mae’r modd yr ydym ni’n rheoli cyllid, buddsoddiadau a chyllidebau’n gallu cael oblygiadau difrifol.
Newid Syml
Drwy weithredu egwyddorion hirdymor ac ataliol i’ch dull o wneud penderfyniadau, gallwch gyfrannu’n gadarnhaol i blaned a’i phobl sy’n gynaliadwy. Drwy adolygu eich cyflenwr ynni a hyd yn oed eich portffolios pensiwn a buddsoddi, gallwch ddatblygu cynllun i ymatal rhag pob tanwydd ffosil ac o ganlyniad fod y fwy cyfrifol yn fydeang.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
You have earned...
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang
Cymru lewyrchus
You have earned...
Cymru lewyrchus
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas