#23
Adolygu eich polisïau i sicrhau eich bod chi’n gwneud yn fawr o gyfleoedd i wella iechyd a llesiant eich cyflogai.
Problem
Mae gwaith yn ffurfio rhan fawr o fywydau’r rhan fwyaf ohonom. Mae llawer ohonom yn gweld mwy ar ein cyflogwyr nag ar ein teuluoedd ein hunain, ac i eraill, sy’n gweithio yn y cartref yn arferol, mae’r diffyg ymwneud beunyddiol â chydweithwyr yn gallu arwain at deimlo’n ynysig. Y naill ffordd neu’r llall, gall gwaith gael dylanwad enfawr dros ein iechyd a’n llesiant.
Newid Syml
Drwy adolygu eich polisïau’n rheolaidd a gofyn am adborth gan gyflogeion, gallwch sicrhau eich bod chi’n gwella iechyd a llesiant eich staff.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru iachach
You have earned...
Cymru iachach
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol
Cymru sy’n fwy cyfartal
You have earned...
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)