#61

Adolygu eich polisi caffael a sicrhau ei fod yn cynnwys arferion teg a moesegol (i gynnwys cyngor gwarchodaeth forol a chyngor gwarchodaeth coedwigaeth)

1

Problem

Rydym ni’n clywed yn aml yn y newyddion fod cyflenwadau pysgod yn dirywio a bod coedwigoedd glaw yr un faint â Chymru’n cael eu torri i lawr. Mae rheoli ein hadnoddau naturiol yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod ni’n parhau i fwynhau’r hyn rydym ni’n ei wneud heddiw i’r dyfodol. Mae’n hanfodol fod cyrff cyhoeddus yng Nghymru’n cefnogi’r nod o weld Cymru’n gyfrifol yn fydeang.

2

Newid Syml

Drwy brynu cynnyrch sydd wedi’i ardystio’n Fasnach Rydd, gan y Cyngor Stiwardiaeth Goedwigaeth neu’r Cyngor Stiwardiaeth Forol,, rydych chi’n chaffael effaith gadarnhaol fydeang ac nid yn niweidio bywoliaeth pobl a’u hamgylchedd ledled y byd.

Astudiaeth Achos

Dyma Warren Clark o Wasanaeth Arlwyo Cymru Gyfan i ddweud wrthym sut y mae ef wedi caffael ei gynnyrch i fod yn Fasnach Deg a lleol i sicrhau ei fod yn gyfrifol yn fydeang gyda’i gaffael.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang,

You have earned...

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang

Cymru gydnerth

Cymru gydnerth,

You have earned...

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)