#40
Gosod targedau ar gyfer cadw merched sy’n dychwelyd o absenoldeb mamolaeth
Problem
dengys ystadegau gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod 77% o famau newydd a mamau beichiog yn adrodd am brofiadau negyddol neu wahaniaethol yn ystod beichiogrwydd, absenoldeb mamolaeth neu wrth ddychwelyd i’r gwaith, er bod beichiogrwydd ac absenoldeb mamolaeth yn nodweddion a warchodir sy’n dod o dan y Ddeddf Gydraddoldeb.
Newid Syml
Drwy osod targedau ar gyfer cyfraddau cadw, gallwch chi sicrhau eich bod yn gweithredu mewn ffordd sy’n hybu eich sefydliad fel gweithle teulu-gyfeillgar, gan ddymchwel rhwystrau i ddatblygu gyrfa a dangos eich ymrwymiad i amrywiaeth a chydraddoldeb ar sail rhyw.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru sy’n fwy cyfartal
You have earned...
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)