#1
Cefnogi busnesau bach a chanolig (SMEau), busnesau cymdeithasol a chydweithredol i gydweithio i geisio ar y cyd am gytundebau
Problem
Dengys ymchwil FSB fod rheolau caffael yn cael eu gweld fel y prif rwystr rheoliadol i fusnesau sy’n gweithio mewn cadwyni cyflenwi, gyda hyd at 64% yn dweud ei fod wedi arwain at leihad mewn elw. Un o’r prif heriau i SMEau yw maint cytundebau’r sector gyhoeddus.
Newid Syml
Drwy annog SMEau i gydweithio a dod ynghyd drwy gyfrwng polisi ceisio ar y cyd, byddwch chi’n helpu i gynyddu amrywiaeth y busnesau sy’n gwneud cais am waith, gan sicrhau fod arian sector gyhoeddus yn cael ei wario’n lleol ac mewn ffordd sy’n cefnogi SMEau a busnesau cymdeithasol.
Purple Shoots
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru lewyrchus
You have earned...
Cymru lewyrchus
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
You have earned...
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang