#69

Cefnogi eich staff ac ymwelwyr i ddeall eu hôl troed carbon personol

1

Problem

Mae’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd wedi rhybuddio fod y byd yn wynebu problemau poenus, a hynny’n gynt na’r disgwyl, wrth i allyriadau carbon barhau i godi. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed lleihau allyriadau o 80% erbyn 2050, ond rydym ni’n bell iawn o allu’i gyflawni.

2

Newid Syml

Fel unigolion, mae camau y gallwn ni oll eu cymryd i leihau ein hôl troed carbon personol. Drwy annog staff i ddefnyddio cyfrifianellau carbon a hwyluso trafodaethau ynglŷn â’r camau bach y gall pob un ohonom eu cymryd, byddwch chi’n helpu i wreiddio’r ethos carbon isel hwn ar draws eich sefydliad.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang,

You have earned...

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang

Cymru gydnerth

Cymru gydnerth,

You have earned...

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)