#21
Ystyried iechyd meddwl yn eich gweithle
Problem
Amcangyfrifir y bydd un o bob pedwar ohonom yn cael problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywyd. Gall hyn gael effaith enfawr ar fywyd gwaith unigolyn, yn ogystal ag ar y sefydliad y maen nhw’n gweithio iddo, wrth i Ymddiriedolaeth Shaw gyfrifo fod cyflogwyr Cymru’n colli hyd at £292m y flwyddyn mewn dyddiau gwaith a gollwyd. Mae sefydliadau llwyddiannus yn perfformio’n dda am eu bod yn blaenoriaethu iechyd meddwl. Gall eich sefydliad gyflawni hyn drwy roi amser i ddod i adnabod eich staff a deall eu profiadau.
Newid Syml
Drwy ddatblygu darlun clir i iechyd meddwl eich sefydliad, byddwch chi’n gallu: deall y ffactorau sy’n effeithio ar lesiant staff yn y gweithle; adnabod yr hyn yr ydych chi’n ei wneud eisoes i’w gefnogi; asesu’r effaith y mae eich dull presennol o weithio’n ei gael; a chynllunio gwelliannau pellach, codi morâl a chynyddu cynhyrchiant.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru iachach
You have earned...
Cymru iachach
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol
Cymru sy’n fwy cyfartal
You have earned...
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)