#78
Defnyddio amrywiaeth o ddulliau a fformatau ymwneud hygyrch a chynhwysol
Problem
Canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru fod gan 84% o gartrefi Cymru fynediad i’r rhyngrwyd yn 2016/17, er ei bod hi’n glir fod Cymru’n parhau i feddu ar ardaloedd o eithrio digidol, o ganlyniad i ddiffyg isadeiledd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Newid Syml
I sicrhau gwasanaethau cyhoeddus tryloyw, agored a gonest, y gall pobl deimlo’n rhan ohono, dylech sicrhau eich bod chi’n defnyddio ystod o ddulliau a fformatau ymwneud hygyrch a chynhwysol, gan gynnwys rhai ar lein ac oddi ar lein. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ymwneud â’r gwasanaethau a’r penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, a rhoi ffurf arnynt.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Ymgyfraniad
You have earned...
Ymgyfraniad
Cymru sy’n fwy cyfartal
You have earned...
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)