#67

Defnyddio papur a ailgylchwyd yn unig a gosod dyddiad ar gyfer bod yn rhydd o bapur. Wrth argraff, symud i gyfeiriad defnyddio inc a wnaed o soy yn unig.

1

Problem

Mae’r gweithiwyr swyddfa cyffredin yn defnyddio 10,000 dalen o bapur copïo bob blwyddyn ac mae’r defnydd o bapur yn fydeang wedi cynyddu bron hanner ers 1980.

2

Newid Syml

Drwy gymryd camau i ddefnyddio papur a ailgylchwyd yn unig, ac yn a i fynd ymhellach a gosod uchelgais i fynd yn rhydd o bapur, byddwch chi’n gweithredu’n gyfrifol o ran defnyddio eich cyfran deg o adnoddau’r byd. Mae inc cyffredin a wneir o betrolewm yn arw ar yr amgylchedd. Mae inc a wneir o soy yn adnodd llawer mwy adnewyddadwy, cynaliadwy, ac mae’r raddfa y gellir adfer ffa soy yn llawer uwch o’i gymharu ag unrhyw gemegau a geir mewn inc traddodiadol.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang,

You have earned...

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang

Cymru gydnerth

Cymru gydnerth,

You have earned...

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)

Cymru lewyrchus

Cymru lewyrchus,

You have earned...

Cymru lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas