#52
Defnyddio atalnod Iaith Gwaith Cymraeg ar linynnau gwddf a llofnodion e-bost pob aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ac sy’n dysgu.
Problem
Dengys ystadegau mai dim ond 51% o siaradwyr Cymraeg sy’n ceisio defnyddio Cymraeg wrth ymwneud â sefydliadau cyhoeddus
Newid Syml
Drwy annog staff sy’n siarad ac yn dysgu Cymraeg i wisgo’r atalnod Iaith Gwaith Cymraeg ar eu llinynnau gwddf ac i’w hymgorffori yn eu llofnodion e-bost, bydd hyn yn helpu i ddangos ble y gellir defnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun beunyddiol, gan annog siaradwyr a dysgwyr fel ei gilydd i ddefnyddio’u Cymraeg yn amlach.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
You have earned...
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden
Cymru sy’n fwy cyfartal
You have earned...
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)