Cysylltwch â Ni

Gohebiaeth Gyhoeddus

Gallwch ysgrifennu ataf i dynnu sylw at faterion neu bryderon ynghylch lle nad yw’r Ddeddf yn cael ei chymhwyso’n briodol ac yr un mor bwysig, lle mae’r Ddeddf wedi eich helpu neu pan fyddwch yn meddwl bod corff cyhoeddus yn gwneud gwaith gwych ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Gallwch gysylltu â mi a’m tîm drwy cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru.

 

Mae’n bwysig nodi:

  • Nid wyf yn haen ychwanegol o apêl yn erbyn penderfyniadau gan gyrff cyhoeddus
  • Ni allaf ofyn i benderfyniadau gael eu newid
  • Yn wahanol i rai Comisiynwyr, nid oes gennyf swyddogaethau gwaith achos neu eiriolaeth
  • Fy rôl yw hyrwyddo datblygu cynaliadwy a gweithio gyda chyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar weledigaeth a chamau gweithredu hirdymor

Dyma sut y byddaf yn trin eich gohebiaeth:

  • Bydd fy nhîm yn ceisio ateb pob gohebiaeth o fewn 20 diwrnod gwaith o dderbyn eich llythyr neu e-bost 
  • Bydd yr ymateb yn nodi fy mhwerau fel Comisiynydd mewn perthynas â’r mater a godwyd, yr hyn y gallaf neu na allaf ei wneud o dan y Ddeddf ac yn amlygu ffyrdd y gallai fy swyddfa helpu.
  • Byddaf yn cofnodi ac yn dadansoddi’r holl ohebiaeth a ddaw i law i nodi materion cyffredin neu themâu sy’n dod i’r amlwg sydd angen sylw, gan ddefnyddio fy mhwerau o dan y Ddeddf

Cofrestrwch i gael mynediad unigryw i'r holl newyddion diweddaraf, fideos newydd, blogiau a mwy yn ein cylchlythyr misol

Subscribe to our Newsletter

Receive the latest news and updates from The Future Generations Commissioner for Wales

We never share your information.