Trafnidiaeth

Gweithredu heddiw ar gyfer gwell yfory

Gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu cyfeiriad, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y brêcs ar adeiladu ffyrdd.

Mae wedi cael gwared ar gynlluniau i adeiladu estyniad traffordd o amgylch Casnewydd a chyhoeddi ei fod wedi rhewi yr holl waith adeiladu ffyrdd gan, yn hytrach, gyfeirio’r arian tuag at drafnidiaeth gynaliadwy ac anelu at gynyddu trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio i 45% erbyn 2045.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy mewn teithio llesol, gwella gwasanaethau bysiau, a hybu gweithio gartref, gan helpu i leihau allyriadau carbon, gwella ein hiechyd a chreu cymunedau sydd wedi’u cysylltu’n well lle gall pobl gerdded a siarad.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn mwy o enghreifftiau o sut mae’r Ddeddf wedi cael effaith ar y cwricwlwm Cymreig?

Adnoddau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Adnoddau Eraill