Ymgyfraniad
Cysylltodd y cynullwyr nodau â dros 200 o wahanol sefydliadau ac unigolion i gasglu straeon o arfer da gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i'w rhannu ag eraill. Gan ddefnyddio eu rhwydwaith eang, cynhaliwyd dau weithdy arloesi ym mis Mawrth gyda phobl sydd wedi dangos meddwl arloesol ac wedi datblygu ffyrdd newydd o weithio. Mae'r bobl hyn yn ein helpu i gasglu syniadau o waith da sy'n cefnogi'r Ddeddf a'r newidiadau syml y gall cyrff cyhoeddus eu gwneud.