Carfan 2019-20
Ym mis Rhagfyr 2019 cyhoeddais enwau’r garfan gyntaf o bobl ifanc i gymryd rhan yn Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol.
Cyflwynwyd Academi Arwain Cenedlaethau’r Dyfodol gyntaf mewn partneriaeth ag Uprising Cymru a Simply Do ac roedd yn rhaglen beilot deng mis gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ganolog iddi.
Daeth 14 o sefydliadau ledled Cymru gan gynnwys Arup, Canolfan Mileniwm Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Celsa Steel at ei gilydd i gefnogi’r rhaglen.
Mae’r rhaglen beilot newydd wedi cynnig cyfle i arweinyddion ifanc talentog ein dyfodol i fod yn rhan o adeiladu mudiad dros newid, i greu Cymru sy’n dod â gweledigaeth ac uchelgais y Ddeddf yn fyw.
Mae meddwl yn yr hirdymor a chreu polisïau sy’n mynd i’r afael ag anghenion cenedlaethau’r dyfodol yn greiddiol i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth o fewn ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ledled y byd, rydyn ni’n gweld pobl ifanc yn mobileiddio a gweithredu ar faterion megis y newid yn yr hinsawdd ac mae’n bwysig bod gan ein pobl ifanc sedd wrth y bwrdd fel y gallant ddal ein harweinyddion presennol i gyfrif.
Darparodd yr Academi hon ffocws a chyfle i arweinwyr presennol ac arweinwyr y dyfodol gydweithio a datblygu polisïau sy’n deg ac yn gynaliadwy.
Mae nodweddion allweddol y rhaglen yn cynnwys:
- Mentora o Chwith fel y gall arweinwyr y presennol ddysgu oddi wrth arweinyddion y dyfodol a gwella’u sgiliau
- Gweithdai megis Tueddiadau’r Dyfodol a Dylanwadu ar Eraill
- Ysgol Haf Arweinyddiaeth
Pan ymunais â’r Academi, doedd gen i ddim syniad beth i’w ddisgwyl. Os ydw i’n onest, doeddwn i erioed wedi clywed am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, fodd bynnag, dros y 12 mis diwethaf rydw i wedi dod i ddysgu pa mor unigryw yw’r Ddeddf a hefyd sut mae gan arweinyddiaeth ar draws y byd ffordd bell i fynd.
Molly Palmer | Canolfan Mileniwm Cymru