Carfan 2021-22 yr Academi
Nid eich rhaglen nodweddiadol
Peirianwyr, ffeminyddion, biolegwyr morol, artistiaid, myfyrwyr, graddedigion, gweithwyr manwerthu, amgylcheddwyr, gweision sifil, cyfreithwyr a llawer mwy, oedd y garfan wych ddiweddaraf o 32 o gynrychiolwyr ifanc, amrywiol o Gymru i’n Hacademi Arweinyddiaeth.
Mae pob cynrychiolydd yn dod â rhywbeth gwahanol i’r bwrdd ac rydym wedi bod mor gyffrous i ddysgu oddi wrth ein gilydd a herio ein gilydd i wneud yn well ar gyfer ein pobl a’n planed.
Mae’r rhaglen yn annog y garfan i roi’r sgiliau y maent yn eu dysgu ar waith, o fewn eu sefydliad, sector neu gymuned eu hunain, drwy Gynllun Gweithredu Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n cael ei gefnogi gan fy nhîm fy hun o Ysgogwyr Newid.
Bydd ein cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i ymuno â’n rhwydwaith Alumni – i lywio’r mudiad o newid ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a pharhau i weithio gyda ni i ysgogi’r newid sydd ei angen ar Gymru i drawsnewid ei hun yn genedl llesiant.
Yn ystod y rhaglen mae’r cyfranogwyr yn herio’r meddwl presennol trwy fentora o’r chwith ac yn cydweithio ag arbenigwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar yr heriau mwyaf enbyd. Mae’r rhaglen hon yn helpu ein harweinwyr ifanc i feithrin y sgiliau, y wybodaeth, a’r rhwydweithiau sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau ar gyfer gwell gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Mae mwy o fanylion am raglen academi eleni i’w gweld yma ac isod gallwch ddod o hyd i fanylion yr academi gyntaf.
Partneriaid Cyflawni
Mae’r sesiynau hyd yn hyn wedi fy ysbrydoli i ddod allan o fy nghysur ychydig a chael yr hyder i godi llais mewn cyfarfodydd. Mae datblygu fy hyder wrth siarad neu gyflwyno i ddieithriaid a phobl sy’n “uwch i fyny” na mi yn rhywbeth sydd angen i mi ei wneud.
Mae Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol wedi bod yn brofiad anhygoel hyd yn hyn. Rwy'n gobeithio gwneud gwell cysylltiadau ledled Cymru. Roedd cyfarfod â phawb wyneb yn wyneb yn wych - y cyfle i gymryd ysbrydoliaeth gan eraill yn ystod cyfleoedd rhwydweithio a chreu partneriaethau newydd. Roeddwn i'n caru clywed yr heriau gwirioneddol y mae sectorau eraill yn eu hwynebu a phwysigrwydd cyd-gynhyrchu. Rwyf wedi dysgu cymaint am sut rydw i'n gweithio a fy arddull arwain a fydd yn amhrisiadwy i mi wrth symud ymlaen.
Sabiha Azad |