Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol


Rhaglen bartneriaeth yw Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol o dan arweiniad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe.
Er mwyn cyflawni dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i gefnogi ac ysbrydoli arweinwyr y dyfodol Cymru. Mae Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol yn cefnogi pobl ifanc i ddysgu a gwella eu sgiliau arwain yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol.
Nid eich rhaglen nodweddiadol
Peirianwyr, ffeminyddion, biolegwyr morol, artistiaid, myfyrwyr, graddedigion, gweithwyr manwerthu, amgylcheddwyr, gweision sifil, cyfreithwyr a llawer mwy, oedd y garfan wych ddiweddaraf o 32 o gynrychiolwyr ifanc, amrywiol o Gymru i’n Hacademi Arweinyddiaeth.
Mae pob cynrychiolydd yn dod â rhywbeth gwahanol i’r bwrdd ac rydym wedi bod mor gyffrous i ddysgu oddi wrth ein gilydd a herio ein gilydd i wneud yn well ar gyfer ein pobl a’n planed.
Mae’r rhaglen yn annog y garfan i roi’r sgiliau y maent yn eu dysgu ar waith, o fewn eu sefydliad, sector neu gymuned eu hunain, drwy Gynllun Gweithredu Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy'n cael ei gefnogi gan fy nhîm fy hun o Ysgogwyr Newid.
Bydd ein cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i ymuno â’n rhwydwaith Alumni – i lywio’r mudiad o newid ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a pharhau i weithio gyda ni i ysgogi’r newid sydd ei angen ar Gymru i drawsnewid ei hun yn genedl llesiant.
Yn ystod y rhaglen mae'r cyfranogwyr yn herio'r meddwl presennol trwy fentora o'r chwith ac yn cydweithio ag arbenigwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar yr heriau mwyaf enbyd. Mae’r rhaglen hon yn helpu ein harweinwyr ifanc i feithrin y sgiliau, y wybodaeth, a’r rhwydweithiau sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau ar gyfer gwell gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Mae mwy o fanylion am raglen academi eleni i'w gweld yma ac isod gallwch ddod o hyd i fanylion yr academi gyntaf.Partneriaid Cyflenwi

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Rôl annibynnol statudol yw rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n gweithredu fel gwarcheidwad cenedlaethau’r dyfodol. Mae gan y Comisiynydd ddyletswyddau i gynghori a chynorthwyo cyrff cyhoeddus wrth iddynt weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’n rhaid i’r Comisiynydd hefyd fonitro ac asesu’r cynnydd a wnaed gan gyrff cyhoeddus a hybu datblygu cynaliadwy.

UpRising
Elusen arloesol ar gyfer datblygu arweinyddiaeth ieuenctid yw Uprising sy’n hybu materion symudedd cymdeithasol a chydraddoldeb. Ein cenhadaeth yw agor llwybrau tuag at bŵer i amrywiaeth o bobl ifanc â thalent, ond sy’n ddiffygiol mewn cyfle. Rydyn ni’n arfogi pobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol â’r wybodaeth, y rhwydweithiau, y sgiliau a’r hyder i gyflawni eu potential fel arweinyddion, ac i ddod o hyd i gyfleoedd newydd a thrawsnewid y byd o’u cwmpas drwy weithredu cymdeithasol.

Academi Wales
Rydyn ni hefyd yn gwerthfawrogi’r cymorth a roddwyd gan Academi Wales i’r rhaglen sy’n cynnwys gwahodd y garfan i Ysgol Haf Academi Wales a hwyluso gweithdai.
Partneriaid Cyllido 2019-2020




















Eisiau gwybod mwy?
Cyfranogwyr 2019-2020

Helen Atkinson

Anna Bailey

Ashley Bale

Joshua Beynon

Alexandra Fitzgerald

Jonathan Grimes

Elenid Haf Roberts

Emily Hattersley

Gwenfair Hughes

Kirsty James

Gabriella Nizam

Molly Palmer

Hayley Rees

Bethany Roberts

Chris Roscoe

Emily-Rose Jenkins

Kimberley Tariro Mamhende

Dan Tram

Mishan Wickremasinghe

Chloe Winstone


Bwrdd Cynghori 2019-2020
Mae Bwrdd Cynghori Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnwys cynrychiolaeth o bob un o’n partneriaid ac eraill a fedr ddarparu arbenigedd a gwybodaeth. Maen nhw’n cynnwys:
Sophie Howe

Ali Abdi
Citizens Cymru Wales a Phorth Cymunedol Prifysgol Cymru

Sumina Azam

Rhiannon Beaumont-Wood

Kara Brussen

Mark Cadwallader

Graeme Farrow

Richard Flowerdew

David Jukes

Richard Lewis

Sarah Nagle

Dan Rayner

Nick Rowe

Ross Storr

Rhodri Talfan Davies

Su Turney

Lowri Williams

Hywel Woolf
