Gellid creu miloedd o swyddi ‘addas ar gyfer y dyfodol’ pe bai Llywodraeth newydd Cymru’n cofleidio gweledigaeth radical i Gymru, yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd cael syniadau blaengar a chwyddo sain lleisiau nad ydyn nhw’n cael eu clywed yn ddigonol yn hanfodol er mwyn helpu pobl i gael y gwaith newydd sicr a boddhaus fydd ei angen er mwyn i’r wlad adfer ar ôl Covid-19, meddai Sophie Howe, wrth iddi amlinellu’i rhaglen ar gyfer y llywodraeth newydd, rhaglen sydd â’i llygad ar y dyfodol.

O’r bobl sydd newydd ddod yn ddi-waith yn y DU yn 2020-21, mae 63% o dan 25 oed (1) ac awgrymau TUC Cymru y gellid creu bron i 60,000 o swyddi fel rhan o’r adferiad gwyrdd, erbyn 2022, gyda’r buddsoddiad cywir.

Dylid mynd i’r afael â thaclo diweithdra ymysg ieuenctid mewn ffordd sy’n gwneud y gorau o fuddion, gan weithredu ar effeithiau Covid ar iechyd meddwl – fel unigrwydd, meddai’r comisiynydd, y mae’i rôl dan nawdd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnwys eiriol dros genedlaethau’r presennol a phobl nad ydynt wedi cael eu geni eto.

Adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru llynedd mai dim ond hanner y boblogaeth oedd yn nodi fod eu lefel hapusrwydd ar hyn o bryd yn uchel.

Mewn papur newydd a gyhoeddwyd heddiw [Dydd Llun, Mawrth 24], Rhaglen Lywodraethu Addas ar gyfer y Dyfodol, dywedodd Ms Howe fod angen i Lywodraeth Cymru ailfeddwl sut mae’r economi’n gweithio, a phwy sy’n elwa, drwy:

  • Adeiladu grym diwylliant a chreadigrwydd i mewn i’r adferiad ar ôl Covid.
  • Cynyddu cyfleoedd i bobl ddysgu drwy gydol eu bywyd.
  • Targedu rhaglenni sgiliau mewn diwydiannau sy’n edrych i’r dyfodol, i gyfeiriad menywod, pobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a’r rheiny sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur.
  • Blaenoriaethu buddsoddi a chreu swyddi mewn adferiad gwyrdd ac un a arweinir gan ofal – talu cyflog byw cywir i weithwyr gofal.
  • Buddsoddi mewn diwydiannau eraill ar gyfer adfer, fel tai, datgarboneiddio a thrafnidiaeth.
  • Gosod cynllun buddsoddi hirdymor ar gyfer gwneud cartrefi’n fwy ynni-effeithlon – arbed arian i bobl ar filiau ynni a chreu swyddi; dileu tlodi tanwydd dros y ddegawd nesaf drwy ddyblu cyllid ar gyfer tlodi tanwydd. (2)
  • Lansio Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i ddarparu sgiliau a chreu swyddi, cynyddu cyfleoedd ar gyfer rhagnodi cymdeithasol 9ble bydd cleifion yn derbyn cefnogaeth anghlinigol yn y gymuned), ac ar yr un pryd adfer amgylchedd naturiol Cymru fel fforestydd, cefn gwlad a llecynnau glas, gan helpu Cymru i ddod yn genedl gyntaf y byd sy’neco-lythrennog.

Dywedodd y comisiynydd fod ‘Gweinyddiaeth Hinsawdd’ newydd Llywodraeth Cymru ar draws tai, trafnidiaeth, cynllunio, yr amgylchedd ac ynni, ynghyd ag ymrwymiad i gynnal peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol, yn dangos ymrwymiad i syniadau newydd i daclo anghydraddoldeb.

Ac eto, mae dadansoddiad gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, y New Economics Foundation (NEF) a TUC Cymru yn tynnu sylw at waith sydd angen ei wneud – gan gydnabod nad yw’r llinell sy’n darparu sgiliau yng Nghymru ar hyn o bryd yn barod nac yn ddigon amrywiol i gwblhau’r ras at sero net.

Mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth, adfer natur a chrefftau cysylltiedig, tua 25 y cant o’r gweithlu sy’n fenywaidd a 0.76 y cant sydd o gefndir nad yw’n wyn. Mewn gosod trydanol, gan gynnwys band llydan, cerbydau trydan a phaneli solar, mae 29 y cant o’r gweithlu’n fenywaidd a 6 y cant yn meddu ar ethnigrwydd nad yw’n wyn.

Yn ogystal, dengys ymchwil newydd fod gan Gymru bellach y raddfa waethaf o dlodi plant o blith holl wledydd y DU, gydag un o bob pump plentyn yn byw o dal y llinell dlodi. (3)

Mae Ms Howe yn gweithio gyda’r felin drafod Autonomy i archwilio sut y byddai incwm sylfaenol, ble telir swm penodol i bobl i dalu am eu hanghenion sylfaenol, waeth a ydym nhw mewn cyflogaeth ai peidio, yn lleihau tlodi’n sylweddol.

Bellach mae’r comisiynydd am i Lywodraeth Cymru ddangos sut y bydd yn taclo materion sy’n croesdorri fel llygredd ac iechyd, ac ar yr un pryd yn gwneud yn fawr o werth llesiant pob polisi a rhaglen – gan alw am ‘linell amser, gweithredoedd a buddsoddiad ar gyfer Adferiad Ffyniannus, Gwyrdd a Chydradd’ wrth i ni ailadeiladu ein gwasanaethau cyhoeddus, ein cymunedau a’r economi.

Mae gan Gymru rai o’r lefelau ansawdd awyr gwaethaf yn y DU. Cofnododd un heol yng Nghaerffili y lefelau uchaf o lygredd y tu fas i Lundain.

Disgrifiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru lygredd aer yr awyr agored fel y bygythiad amgylcheddol mwyaf i iechyd, ac mae’n amcanu fod rhwng  1,000-1,400 o farwolaethau bob blwyddyn yn gallu cael eu holrhain yn ôl i ymwneud â llygredd aer, sy’n uwch yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Meddai Sophie Howe: “Mae adfer ar ôl Covid yn galw am atebion cryf, sy’n cynnwys llywodraeth yn ei chyfanrwydd, i sicrhau mynediad i waith dechau, ystyrlon a theg, yn enwedig i bobl fanc sy’n pryderu am eu dyfodol.

“Rhaid i ni sicrhau fod pawb yn gallu manteisio ar gyfleoedd swyddi gwyrdd newydd, a bod gyda ni’r sgiliau a’r hyfforddiant cywir ar y gweill er mwyn peri i hynny ddigwydd. Ar hyn o bryd, mae’r bylchau o ran sgiliau a phrinder amrywiaeth yn peri gofid, ac mae cyfleoedd yn cael eu colli.

“Mae fy nghynllun i’n amlinellu’r gweithredoedd polisi fydd eu hangen ar gyfer meddwl yn fwy cydlynus, gyda chymorth y bobl a’r sgiliau sydd gennym yn ein cymunedau eisoes, o wirfoddolwyr i fusnesau, artistiaid a phobl greadigol.

“O’i wneud yn iawn, gallwn greu cyfleoedd bywyd, gwella ein hiechyd heddiw ac adfer ein hamgylchedd naturiol er budd cymunedau a chenedlaethau i ddod.”

  • Bydd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn siarad yng Nghyngres TUC Cymru 2021 ddydd Mercher, Mawrth 26.

Nodiadau i Olygyddion 

(1): Yn ôl Adroddiad y Green Alliance 2021. 

(2): I £73m y flwyddyn. 

(3): Cyn y pandemig, roedd bron i 200,000 o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru, gyda chyfran uwch o blant wedi’u heffeithio nag ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf. Mae un o bob pump o blant Cymru’n byw islaw’r llinell dlodi, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Loughborough ar gyfer yr UK End Child Poverty Coalition. 

Defnyddiwyd y gair ‘dyfodol’ 75% yn fwy o weithiau, o’u gymharu â 2016, ym maniffestos gwleidyddol eleni cyn Etholiad Cymru, a dywedodd Ms Howe fod yn rhaid i’r Senedd bellach gadw’i gair ar ei hymrwymiad i bolisïau sy’n gwarchod pobl yn y tymor hir. 

Meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: “Rhaid i adferiad gwyrdd fod yn adferiad teg a chynhwysol hefyd. Mae pawb yn gytûn fod angen i ni ailadeiladu’n well, a dyma pam fod cael darlun clir o’n pwynt cychwynnol a’r bwlch sgiliau mor eithriadol bwysig. 

“Nawr, mae angen i ni weithio gyda chyflogwyr a’r llywodraeth ar gynllunio gweithlu, er mwn i unrhyw fuddsoddiad mewn uwchsgilio ein gweithlu a datgarboneiddio ein cartrefi hefyd yn arwain at waith o ansawdd da a sector adeiladu lawer mwy amrywiol. Wnawn ni ddim ailadeiladu’n well oni bai ein bod ni’n cynllunio’r manylion ar y cyd, yn enwedig pan ddaw hi’n fater o amrywiaeth.  

“Mae hwn yn rhan o’n huchelgais ehangach ar gyfer symudiad teg i economi garbon isel, ble nad oes yr un gweithiwr yn cael ei adael ar ôl, ac y bydd buddsoddiad gan y wladwriaeth yn dyrchafu’r bobl hynny sy’n cael eu dal yn ôl yn arferol gan ein marchnad lafur, gan gynnwys gweithwyr benywaidd a phobl o gefndiroedd BAME.”   

“Gall hyfforddi pobl ar gyfer swyddi gwyrdd helpu gyda gorbryder am yr hinsawdd”

Fe wnaeth Lisa Tomos, 24, o Landygai yng Ngwynedd, gael trafferth dod o hyd i waith ar ôl graddio â gradd dosbarth cyntaf mewn Anthropoleg Gymdeithasol o Brifysgol St Andrews yn 2019.

“Pan darodd Covid, doedd dim cyfleoedd,” meddai hi.

Roedd Lisa’n gwybod ei bod hi eisiau gweithio ym maes cynaliadwyedd ac roedd hi wedi cynllunio’n wreiddiol i deithio i fynyddoedd y Wladfa Gymraeg ym Mhatagonia – ond gohiriwyd y ddau beth gan y pandemig.

“Mae rhywun yn teimlo fel pe bai’u holl fywyd ar stop. Roedd pob un o fy ffrindiau’n teimlo’r un peth. Ar ôl gorffen yn y brifysgol, mae pwysau arnoch chi i gael eich swydd ddelfrydol, ac roedd hynny’n waeth oherwydd Covid. Roedd pawb yn teimlo’n sownd. Mae rhai o fy ffrindiau’n dal i deimlo felly. Roedd fy nghariad yn ffonio pobl yn ddigyflwyniad bob dydd, a chymerodd ffrindiau eraill swyddi gofalu i wneud eu rhan i helpu yn y pandemig, a hefyd i ennill tipyn bach o arian.”

Wedi rhai misoedd gartref gyda’i rhieni, daeth Lisa o hyd i gyfle, drwy gyfrwng tudalen Facebook y fenter gymdeithasol Partneriaeth Ogwen, y sefydliad oedd wedi bod yn cyflenwi blychau bwyd ffres i’w theulu.

Roedd y rôl ran amser, gyda chefnogaeth Arloesi Gwynedd Wledig, yn peri fod Lisa’n gweithio gyda’r gymuned i wneud ymchwil cymunedol. Dilynwyd hynny gan gyfle gwaith arall, i archwilio sut y gallai twristiaeth fod yn fwy cynaliadwy a dod â mwy o fanteision i bobl oedd yn byw yno. Cyd-gynlluniodd Lisa fodel twristiaeth gymunedol, gan weithio ar y cyd â mentrau cymdeithasol eraill ar draws gogledd Cymru, i alluogi grwpiau cymunedol i brynu a chynnal tai gwyliau er budd y gymuned.

Bellach mae hi’n gweithio fel swyddog gwybodaeth a dysgu gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan helpu i ddatblygu rhaglenni cyllido i’r dyfodol a fydd yn galluogi mwy o gymunedau i gael mynediad i gyllid ar gyfer prosiectau sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a newid hinsawdd.

“Mae cymaint o sefydliadau’n canolbwyntioar sut y gallan nhw helpu i daclo’r argyfwng hinsawdd nawr – mae’n ddiwydiant sy’n tyfu – ond mae angen help ar bobl i gael mynediad i’r cyfleoedd,” meddai Lisa.

“Mae gan bobl ifanc syniadau gwych, allai fod o werth enfawr, pe baen nhw’n cael y cyfle.”

Mae natur gwaith yn newid. Yn ôl y cwmni ddadansoddi, Oxford Economics, gallai hyd at 20 miliwn o swyddi gweithgynhyrchu ledled y byd gael eu gwneud gan robotiaid erbyn 2030.

Meddai Lisa: “Rhaid i ni arfogi pobl ifanc â’r sgiliau ar gyfer swyddi’r dyfodol nawr – eu gwarchod rhag sioc y newidiadau mawr sy’n dod. Os nad yw’r gallu yno, bydd hi’n gymaint fwy anodd nes ymlaen, pan fydd gwir angen arnon ni.

“Mae Cymru ar flaen y gad o ran ei bwriadau, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn enghraifft o hynny, ond mae angen i ni fynd yn fwy nerthol ac yn gynt.

“Gwyddom fod newid hinsawdd yn mynd i barhau i niweidio pobl ddifreintiedig. Allwn ni ddim â gadael i bobl gael eu hanghofio.”

Mae Lisa, sy’n figan am resymau amgylcheddol, ac sy’n dweud fod yr argyfwng hinsawdd yn sgwrs barhaus ymysg ei ffrindiau, o’r farn y gallai hyfforddi pobl ifanc ar gyfer swyddi gwyrdd ‘helpu gyda gorbryder am yr hinsawdd’.

Canfu astudiaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd fod pobl sy’n profi tywydd eithafol fel stormydd neu lifogydd 50% yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl, gan gynnwys straen ac iselder, am flynyddoedd wedi’r digwyddiad.

Meddai Lisa: “Rhaid i ni rymuso pobl ifanc â’r wybodaeth a’r sgiliau i wneud rhywbeth am yr argyfwng hinsawdd – er mwyn i ni allu canfod llawenydd mewn gweithio tuag at y nod cyfun hwn.”