Rwyf wedi gweld Mis Hanes Pobl Dduon yn mynd a dod ar hyd y blynyddoedd.
Ac er bod llawer o bethau wedi newid ers tyfu i fyny fel plentyn hil gymysg yng Nghaerdydd yn yr 80au, rwy'n teimlo bod llawer iawn i wella arno - ac mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd wneud gyda'n gilydd.

Y Mis Hanes Pobl Dduon hwn, fe wnes i gyfweld â phump o bobl Ddu o bob rhan o Gymru ar yr hyn y mae’r digwyddiad yn ei olygu iddyn nhw, a pha wersi maen nhw’n meddwl y gall hanes pobl Dduon eu dysgu i’r byd am y dyfodol.

Ar gyfer y digwyddiad hwn gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe, siaradais â Phillip, Jessica, Vernesta, Kimberley a Margaret ac roedd yn anrhydedd i mi glywed eu straeon.

Fe wnaeth siarad â nhw roi amser i mi fyfyrio ar yr hyn y mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ei olygu i mi, a nawr ei fod wedi dod i ben, roeddwn i eisiau rhannu rhai o’r myfyrdodau hynny.

I mi, hanes yw hanes yw hanes – mae’n perthyn i bob un ohonom.

Rwy’n deall ystyr Mis Hanes Pobl Dduon, ond, yn bersonol, mae wedi ennill statws mytholegol bron, ac mae ffigurau fel Martin Luther King Jr a Rosa Parks, Harriet Tubman a Mary Seacole wedi dod yn gymeriadau llyfr stori i mi.

Yr hyn a welais oedd bod eu geiriau’n barod i brocio’r rhai a hoffai ddibrisio pobl Ddu, cau sgyrsiau am yr anghydraddoldebau strwythurol yn ein cymdeithas, ie, yng Nghymru a’r DU, hefyd, a’r rhai sy’n ymddieithrio â thrafodaethau ystyrlon ar sut gallwn ni wirioneddol symud ymlaen a gwneud hynny mewn undod.

Dyna pam rwy’n credu bod angen i naratif Mis Hanes Pobl Dduon newid.

Mae edrych i orffennol yn darlunio pobl Ddu fel ‘eraill’, gan ymladd yn gyson am gydnabyddiaeth bod ein bywydau o bwys mewn gwirionedd, cymaint â phawb arall.

Dylwn edrych ar yr hanes rydyn ni’n ei greu nawr, ar hyn o bryd. Bydd pob eiliad deffro yn cael ei chofnodi fel hanes ar ryw adeg, ac felly mae angen i ni wneud y gorau ohoni.

Dyna pam yr wyf yn gobeithio, wrth i ni symud ymlaen o Fis Hanes Pobl Dduon, nad ydym yn pacio ein hadnoddau hardd yn daclus a thwt ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac yn symud ymlaen i’n prosiectau eraill heb ail feddwl am yr hyn a ddywedwyd ac a wnaed ym mis Hydref.

Gallwn wneud 2021 y flwyddyn lle mae’r cyfan yn glynu, lle rydyn ni i gyd wedi ein hadlewyrchu, ein clywed, a phob un yn cael yr un cyfleoedd.

Gyda dysgeidiaeth gynhwysol diwylliannau a hetifeddiaethau amrywiol yn cael eu gweithredu mewn ysgolion yng Nghymru o fis Medi 2022, mae’n gyffrous meddwl am botensial ein plant yma yng Nghymru.

Rydyn ni’n gymuned fyd-eang, ac rydyn ni’n ffodus i gael y fath gyfoeth yma. Bydd y ffaith y bydd plant yn gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn yr hyn a addysgir yn eu hysgolion yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’w hymdeimlad o hunan-werth. Byddai wedi gwneud gwahaniaeth i fy un i.

Roedd yn deimlad braf cael siarad â’r pum person Du disglair ar eu meddyliau ynghylch Mis Hanes Pobl Dduon, ei gymhlethdodau, ei naws a’i ddiffygion.

Mae wedi bod yn gyfle i dyfu ac i fod yn gatalydd ar gyfer grymuso sgyrsiau gyda fy mhlant fy hun.

Rwy’n ddiolchgar fy mod wedi trosglwyddo straeon Phillip, Jessica, Vernesta, Kimberley a Margaret.

Mae gan eu straeon fwy i’w ddysgu na straeon enwogion nad ydyn nhw’n siarad â’n profiadau – yn hytrach na thynnu ein sylw, yn lle ein hadlewyrchu neu ein cefnogi i dyfu. Gyda hynny mewn golwg, rwy’n credu mai’r bygythiad mwyaf i genedlaethau’r dyfodol yw colli’r hunan.

Dywedir wrthym yn gyson i ddewis ochr, beth i’w wneud a sut i feddwl.

Felly gall fod yn frawychus sefyll i fyny a lleisio ein meddyliau a’n teimladau ein hunain.

Os gallwn gamu yn ôl ac edrych ar bethau â llygad mwy beirniadol, a cheisio bod ychydig yn ystyriol o’r hyn yr ydym yn ei ddefnyddio, p’un a yw’n bethau materol neu’r cyfryngau, gallem weld buddion cadarnhaol i ni ein hunain a’n cymunedau.

Mae’n hanfodol ein bod ni’n dechrau cysylltu â’r cymunedau rydyn ni’n perthyn iddyn nhw, oherwydd ein cymunedau ni yw ein cartref.

Roedd Vernesta yn y llygad ei lle pan ddywedodd, ‘rydym yn bobl fendigedig – cymaint o dalent’, ac mae Kimberley yn adleisio, ‘gallem fod yn dathlu ein gilydd unrhyw bryd gyda’r hyn yr ydym i gyd yn ei gyflawni’ fel unigolion, yn ein hawl eich hun.

Ac er ein bod ni’n dathlu ein gilydd, mae angen i ni edrych yn y drych yn amlach, a dathlu ein hunain. Nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau.

 

Mae Emma Evans yn awdur o Gaerdydd. Gallwch ei dilyn @EmmaJayneEvans1