Fel rhan o’n dyletswydd i hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, yn chwilio am asiantaeth i greu a chyflawni ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus i hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy i ystod o gynulleidfaoedd newydd.

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (y ‘Ddeddf’) yw gwella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Cymru. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yng Nghymru weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Mae’r Ddeddf yn ymgorffori ymrwymiad hanesyddol Cymru i ddatblygu cynaliadwy ac mae wedi sefydlu saith nod llesiant, gan gynnwys nod ‘Cymru sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang’. Mae’r Ddeddf yn rhoi ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ ar waith sy’n cynnwys pum ffordd o weithio y mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus eu hystyried wrth ddatblygu eu polisïau a’u buddsoddiadau: Hirdymor; Integreiddio; Cydweithio; Cynnwys ac Atal.

Rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (FGC) yw gweithredu fel gwarcheidwad er budd cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, a chefnogi’r cyrff cyhoeddus i weithio tuag at gyflawni’r nodau llesiant drwy’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan ddiogelu yfory rhag gweithredoedd heddiw.

Mae’r FGC yn ceisio cyflwyno ymgyrch yn y cyfryngau sy’n amlygu’r ddeddfwriaeth gyffrous hon, yn benodol i gynulleidfaoedd newydd gan gynnwys cynulleidfa ryngwladol, fel bod pobl yng Nghymru a rhannau eraill o’r byd yn deall y ddeddfwriaeth ac yn cael eu hannog i gydweithio â’r FGC yng Nghymru ac eraill, i’w ddefnyddio a/neu ei fabwysiadu a helpu i wella pob dimensiwn o lesiant Cymru, yng Nghymru a thrwy weithredu byd-eang.

Dylai’r ymgyrch addysgu sut mae’r Ddeddf yn gweithio, sut mae’n gwneud gwahaniaeth ar draws sawl maes polisi yng Nghymru a helpu cynulleidfaoedd i ddeall sut mae’r Ddeddf yn arwain at welliannau yn llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Cymru, gyda nod o annog eraill i fabwysiadu Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol neu’r arfer da y mae wedi arwain ato mewn meysydd polisi penodol.

Rydym am i’r ymgyrch hon adeiladu cyffro, yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol o amgylch yr hyn sy’n cael ei wneud yng Nghymru o ganlyniad i’r Ddeddf ac adeiladu achos cymhellol dros ddeddfwriaeth cenedlaethau’r dyfodol yn fyd-eang, gan ddangos yr hyn sy’n bosibl.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, sefydliadau neu gonsortia sydd â diddordeb.

Dyddiad cau ar gyfer ymholiadau: 26 Ionawr 2022

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i GwerthwchiGymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr aseiniad, cysylltwch â Claire Rees, Arweinydd y Cyfryngau, claire.rees@futuregenerations.wales