Rydym yn falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r adroddiad pwysig hwn heddiw yn derbyn argymhellion y Panel Adolygu Ffyrdd, a gefnogwyd gennym. Diolchwn iddynt hwy ac i Dr Lyn Sloman am eu hymrwymiad amlwg i drawsnewid y ffordd y byddwn yn symud o amgylch Cymru.

Ymrwymiadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol 

Roedd ein llythyr at y Prif Weinidog ym mis Hydref 2022 yn galw ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau dros drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru i roi’r argyfwng hinsawdd, ein targedau di-garbon net a llesiant Cymru ar flaen a chanol eu hargymhellion. Rydym yn croesawu’r ffaith bod ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn adlewyrchu’r pwyntiau a godwyd gennym. 

Rydym wedi nodi tair blaenoriaeth a ddylai fod yn sail i benderfyniadau ar gyfer pob cynllun ffordd, yn awr ac yn y dyfodol: 

  • Yr angen i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a chyrraedd y targedau sero net: mae 17% o allyriadau Cymru yn dod o drafnidiaeth gyda hanner y rheini’n dod o geir. Y gwir amdani yw, oni bai ein bod yn lleihau ein hallyriadau trafnidiaeth yn sylweddol, nid ydym yn mynd i gyrraedd ein targedau sero net, 
  • Yr angen i wella llesiant a mynd i’r afael â chostau byw: Rhaid inni leihau costau symudedd a symud i ffwrdd o fod yn berchen ar gar drud; mae angen inni chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag dod o hyd i waith gweddus a chyrraedd y gwaith bob dydd; i gyrraedd eu man astudio, gofalu neu chwarae; neu i gadw mewn cysylltiad ag aelodau o’u teulu a’u rhwydwaith cymorth ehangach, 
  • Yr angen i feithrin gwydnwch economaidd a chryfhau cymunedau cydlynol: dangoswyd nad yw cynlluniau ffyrdd yn cael fawr ddim effaith ar economïau lleol a rhaid inni roi’r gorau i dorri cymunedau oddi wrth ei gilydd a’u strydoedd mawr lleol.

Rydym yn falch o weld bod ymrwymiad heddiw gan Lywodraeth Cymru hefyd yn dilyn cyngor y Panel Adolygu Ffyrdd sy’n cyd-fynd yn gryf â’r blaenoriaethau hyn ac a adlewyrchir yn yr amodau newydd sydd i’w gosod ar gynlluniau ffyrdd newydd. Rydym hefyd yn cefnogi casgliad y Panel na ddylai unrhyw gynlluniau newydd gynyddu capasiti ffyrdd, cyflymder cerbydau nac allyriadau na chael effaith andwyol ar safleoedd sydd yn ecolegol werthfawr. 

Rydym hefyd wedi ein sicrhau yn yr un modd y bydd yr amodau newydd yn cael eu cymhwyso ar gyfer y cynlluniau sy’n mynd rhagddynt ac y bydd unrhyw ddulliau eraill a awgrymwyd yn flaenorol yn ystod eu proses WelTAG Cam 1 yn cael eu hailystyried. 

Mae’n golygu y dylai cynlluniau newydd fynd yn eu blaenau dim ond ar y sail eu bod yn gwella diogelwch neu’n addasu i newid yn yr hinsawdd, a’u bod yn cael eu datblygu mewn modd sydd yn cynyddu cyfrannau modd trafnidiaeth gynaliadwy. 

 

Trafnidiaeth sy’n addas ar gyfer llesiant Cymru 

Er bod symudedd yn rhan bwysig o fywydau pobl, rhaid inni gofio nad oes gan 20% o bobl fynediad i gar yng Nghymru. Mae ein system drafnidiaeth bresennol yn seiliedig ar ddulliau trafnidiaeth hen ffasiwn ac nid yw’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Mae’n iawn symud o fuddsoddi mewn ffyrdd newydd i fuddsoddi mewn teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Nid yn unig y bydd hyn yn helpu i leihau ein hallyriadau carbon ond bydd hefyd yn dod â manteision i iechyd pobl ac yn creu Cymru fwy cyfartal drwy flaenoriaethu buddsoddiad ar gyfer y bobl sydd ei angen fwyaf, yn aml y rhai na allant fforddio prynu ceir. Mae’n rhaid i atebion trafnidiaeth gwirioneddol gynaliadwy fodloni anghenion ystod llawer mwy amrywiol o bobl. 

 

Y car a chostau byw 

Rhaid inni gydnabod bod yr argyfwng costau byw presennol yn gwaethygu llawer o’r pwysau economaidd y mae pobl yng Nghymru yn ei deimlo. Mae llawer ohonom wedi ein cloi i mewn i ddibyniaeth ddrud ar geir a allai gael ei lleddfu gan fuddsoddiad mewn rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus sy’n fwy integredig, arloesol a fforddiadwy. 

Dywedodd tua 57% o bobl a holwyd gan yr RAC y byddent yn fodlon defnyddio llai ar eu ceir pe bai ansawdd trafnidiaeth gyhoeddus yn gwella. Rhaid i newid ymddygiad ddechrau gyda newid ymddygiad ar y lefel uchaf o wneud penderfyniadau. Mae angen inni weld mwy o fuddsoddiad yn hyn. 

 

Manteision amgen – Cadernid economaidd a chymunedau cydlynol 

Mae adolygiadau diweddar o effeithiau economaidd gwirioneddol buddsoddi mewn ffyrdd yn codi amheuaeth ynghylch graddfa budd o’r fath. Archwiliodd astudiaeth gan What Works Centre for Local Economic Growth 2,300 o astudiaethau o brosiectau trafnidiaeth yng ngwledydd yr OECD a’r DU. O’r rheini, dim ond 17 a gafodd effeithiau cadarn ar yr economi leol. 

Mae seilwaith ffyrdd sy’n torri drwy’r gymuned yn lleihau cysylltiadau cymdeithasol ac yn cynyddu ein dibyniaeth ar fynd â’r car pryd bynnag y bydd angen i ni bicio i’r siop. Mae cymunedau sy’n isel mewn traffig ar y llaw arall yn gweld dychwelyd i strydoedd mawr ffyniannus. 

Bydd rhoi dewis o ddewisiadau trafnidiaeth fforddiadwy, gynaliadwy i bobl yn helpu i wella ansawdd aer, ein disgwyliad oes iach, lleihau’r bwlch rhwng ardaloedd o amddifadedd uchel ac isel, gwella economïau a chreu cymunedau cydlynol. 

 

Dywedodd Rhiannon Hardiman, Ysgogwr Newid (Natur, Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio) o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: 

“Mae cynigion Llywodraeth Cymru yn gam da i’r cyfeiriad cywir ac yn dangos yr ymrwymiad gwleidyddol a’r arweinyddiaeth sydd eu hangen ar genedlaethau’r dyfodol. Maent yn cydnabod bod adeiladu ffyrdd yn ddiofyn yn ymateb hen ffasiwn sy’n seiliedig ar ogwydd tuag at geir nad yw’n seiliedig ar synnwyr economaidd, amgylcheddol na chymdeithasol da. 

Mae’n galonogol gweld gwleidyddion yng Nghymru yn gwrthod y status quo o fynd i’r afael â thagfeydd trwy adeiladu mwy o ffyrdd.” 

 

Mae arnom angen penderfyniadau trafnidiaeth ar frys i adlewyrchu’r argyfwng hinsawdd, ein helpu i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a’n targedau fel y’u nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Sero Net Cymru. Rhaid i’r penderfyniadau hyn hefyd ein helpu i gyflawni’r nodau llesiant cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. 

Unwaith eto mae Cymru yn arwain y ffordd, gan roi newid trawsnewidiol gwirioneddol ar waith ar gyfer y ffordd yr ydym yn symud nawr ac yn y dyfodol. Nid yw hwn yn benderfyniad hawdd, ond dyna sydd ei angen ar genedlaethau’r dyfodol. 

 

DIWEDD