Gan Jack Sargent AS a Charlotte Waite

Yn ddiweddar galwodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar Lywodraeth Cymru i feithrin gwerth ‘caredigrwydd’ ar bob lefel o lywodraeth a pholisi cyhoeddus er mwyn cwrdd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
 
Rydyn ni’n cytuno’n llwyr; bu angen y newid hwn ers amser maith ac mae’n rhaid i ni gael sgwrs ddidwyll am yr angen i garedigrwydd fod wrth wraidd Gwasanaethau Cyhoeddus neu ddynol.

Yn rhy aml mae gwasanaethau wedi ymddwyn yn angharedig ac wedi dod yn gosbol, gan geisio cosbi ymddygiad gwael gan eu bod yn ddrwgdybus o ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) systemau sy’n gorfodi staff i fabwysiadu ymagwedd feirniadol, a hyn yn aml yn anfanteisiol i ddefnyddwyr gwasanaeth. Enghraifft arall yw adrannau tai lleol. Pan fydd pobl yn ceisio cymorth tai maent mewn amgylchiadau enbyd, yn aml mewn llety gwely dros dro ac yn dioddef effaith oes o drawma. Yn yr amgylchiadau hyn maent yn aml yn cael un cynnig i ddatrys eu problem tai nad yw, o bosib, yn addas iddynt. Os ydynt yn ymateb yn wael i hyn, gellir hyd yn oed dynnu’r cynnig yn ôl. Nid staff rheng flaen sy’n gyfrifol am hyn ac mae’n aml yn mynd yn groes i’w dynoliaeth hwy eu hunain ac yn groes i’r modd y byddent fel arfer yn ymateb; yn hytrach mae hyn yn digwydd fel canlyniad i’r system y maent yn gweithio o’i mewn.

Mae ymatebion angharedig o’r fath yn ddrwg i’r rhai sydd angen help. Gallant arwain at ddieithrio a chreu gwrthdaro, sy’n arbennig o niweidiol pan fydd gwasanaethau’n ceisio helpu pobl â phroblemau cymhleth. Mae llawer o’r defnyddwyr gwasanaeth hyn wedi profi trawma yn y gorffennol, sydd, er nad arnyn nhw mae’r bai, yn peri iddynt ymateb yn negyddol.

Mae’r ymateb hwn nid yn unig yn wrthgynhyrchiol ond hefyd yn fwy drud i’r trethdalwr. Gwyddys yn dda bod helpu rhywun yn y cyfnod cynnar yn sicrhau bod yr ymyrraeth yn fwy effeithiol. Mae’r ymateb i’r Coronafeirws wedi dangos gallu gwasanaethau i weithredu’n wahanol gyda rhai canlyniadau hynod. Er enghraifft, mae’r rhai hynny sy’n byw ar y stryd wedi cael llety er mwyn eu cadw’n ddiogel rhag y firws ac mae’r rhai agored i niwed wedi derbyn pecynnau gofal yn wythnosol – rhaid cydnabod y rhain fel camau cadarn ymlaen, ni fedrwn fynd yn ôl i’r ffordd yr oedd pethau unwaith y bydd y pandemig yn cilio.  

Mae’n amlwg y bydd pobl sy’n derbyn cymorth da yn mynd ymlaen i fyw bywydau mwy boddhaol a chynhyrchiol os bydd rhwystrau i gyfle’n cael eu symud. Mae caredigrwydd yn ymwneud â dileu’r rhwystrau hynny. 

Mae gwasanaethau dynol yng Nghymru, sef y gwasanaethau cyhoeddus hynny a sefydlir gan y wladwriaeth i helpu pobl Cymru i fyw bywydau mwy llewyrchus, diogel ac iach, yn anffodus wedi dod yn, wel, llai dynol. 

Fel yr amlygodd gwaith yr Ymddiriedolaeth Carnegie, nid yw’r ateb mor syml â gofyn i bobl fod yn garedig. Mae yna rinwedd wrth gwrs mewn bod yn fwy caredig yn ein gwaith, hyd yn oed os y gellir canfod ein gwaith fel rhywbeth cosbol, a phan fyddwn yn gorfod cyfleu gwybodaeth anodd e.e. rhoi i deulu sy’n cael eu taflu allan yr urddas a’r parch y maent yn eu haeddu. Mae bod yn fwy dynol (neu garedig) o dan yr amgylchiadau yma’n lleddfu’r boen i rwy raddau ac o leiaf yn cyfleu urddas, parch, empathi a thosturi oddi wrth un person dynol i un arall, hyd yn oed pan fydd anghydbwysedd grym yn amlwg. Ond nid cymhwysiad caredicach o’r status quo yw’r pwynt yn y fan hon; nid yw’n cwestiynu cymhelliad a phwrpas y gwasanaeth cyhoeddus, ond fe fyddai prawf ehangach o garedigwrydd yn ein helpu i ail-werthuso’r gwerthoedd a phwrpas y system yr ydym wedi ei chreu i helpu’r rhai mwyaf agored i niwed. 

Os siaradwch â’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus, maen nhw yno am resymau nobl megis awydd i helpu i wneud gwahaniaeth neu i fod yn ‘berson pobl’. Maen nhw’n aml wedi derbyn hyfforddiant yn y dull o ymgysylltu’n dda â phobl, ac yn cydnabod y berthynas rhyngddynt â phobl eraill fel yr offeryn gorau yn eu harfwisg ar gyfer helpu pobl yn effeithiol. Felly pam mae arferion sy’n ymddangos fel rhai ‘angharedig’ wedi datblygu? Nid bai yr unigolion sy’n gweithio mewn gwasanaethau yw hyn ond polisi ac arfer cyhoeddus sydd wedi cefnu ar garedigrwydd. I weithredu prawf caredigrwydd, rhaid i ni wynebu’r cyd-destun y mae gwasanaethau’n gweithredu o’i fewn. 

Mae gennym dirwedd o wasanaethau lle rhoddir mwy o flaenoriaeth i atebolrwydd na dysgu wrth fesur canlyniadau. Mae’r system bresennol yn cynnig ffordd or-syml o asesu gwaith pobl sy’n gweithredu polisi cyhoeddus trwy fesur eu perfformiad yn erbyn targedau meintiol. Yn naturiol, gan eu bod eisiau gwneud yn dda, mae pobl yn cael eu gyrru i gyrraedd eu targedau. A dyma gychwyn dawns rhwng gwasanaeth a chomisiynydd, lle mae pob un ohonynt yn gwybod bod y data’n paentio llun sy’n ymwneud yn fwy â chyfiawnhau bodolaeth y gwasanaeth na gwneud y gwahaniaeth y bwriadwyd iddo ei wneud pan gafodd ei ddylunio.

 The more any quantitative social indicator is used for social decision-making, the more subject it will be to corruption pressures and the more apt it will be to distort and corrupt the social processes it is intended to monitor” (Campbell’s Law 1976, ‘Addressing the impact of planned social change’)

Mae canolbwyntio ar gyrraedd targedau’n golygu bod gweision cyhoeddus yn llai abl i fod yn berthynol a charedig. Dro ar ôl tro mae gweithwyr yn dweud wrthyf mai’r “canlyniadau meddal” yw’r rhai y maent yn eu gwerthfawrogi fwyaf ond “nid dyma’r hyn yr ydyn ni i fod i’w wneud”. Mae llawer o weithwyr yn mynd uwchlaw a thu hwnt i hyn, gan weithredu mewn ffordd garedig oherwydd bod hynny’n teimlo’n fwy dynol. Ond ni ellir parhau i wneud hyn am gyfnod amhenodol. Os nad ydych yn cael sylw, yn cael eich gwerthfawrogi a’ch cynorthwyo wrth i chi wneud eich gwaith mewn ffordd garedig rydych yn blino ac yn dechrau teimlo’n ddifywyd. Mae bod yn dosturiol yn dechrau teimlo fel baich, ac yn y pen draw rydych yn dechrau gweld caredigrwydd fel rhywbeth sy’n eich rhwystro rhag cyflawni’r dasg. 

Ynghyd â’r ymwybyddiaeth ddybryd o’r angen i ddogni gwasanaethau oherwydd diffyg adnoddau, ceir datblygiad o ‘ni’ sydd â’r adnoddau, wedi’i fesur yn erbyn pa mor dda rydyn ni’n eu defnyddio, a ‘nhw’ y bobl sydd eu hangen arnom i gyrraedd ein targedau neu eu hasesu allan o’r gwasanaeth oherwydd nad ydynt yn cwrdd â’r trothwy. Nid yw darparu gwasanaethau fel hyn yn teimlo’n garedig tuag at y rhai sy’n derbyn y gwasanaeth na thuag at y rhai sy’n ei gyflawni; yn debyg iawn i fyfyrwyr Milgrams, mae’r deial wedi troi ac mae gennym normal newydd lle nad oes unrhyw gysylltiad rhwng cwrdd â thargedau a charedigrwydd.

Felly, mae gweithredu caredigrwydd yn mynd tu hwnt i’r angen i newid agwedd gweithwyr; mae’n golygu cymhwyso’r prawf i’r holl system. Gofyn cwestiynau megis: 

·         Sut a pham mae trothwyon yn cael eu penderfynu ar gyfer gwasanaethau?

·         Beth sy’n sbarduno arfer, yn mesur canlyniadau neu’n gwneud newid gwirioneddol?

·         Sut fedrwn ni gynorthwyo dulliau perthynol o weithio?

·         Sut fedrwn ni bontio’r gagendor rhwng y darparydd gwasanaeth a’r derbynnydd goddefol?

Rydyn ni’n ddiolchgar i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol am roi caredigrwydd ar yr agenda ac rydyn ni’n cydnabod mai dyma’r union fath o feddwl eofn a alluogir gan y ddeddf. Mae angen newid systemig i osod caredigrwydd wrth galon pob lefel o lywodraeth, a gobeithiwn fod y sesiwn bord gron a gynhaliwyd yn gynharach eleni wedi bod yn fodd i gychwyn y newid hwnnw. Os fedrwn ni gychwyn gweithredu ‘profion caredigrwydd’ megis yr un a grybwyllwyd uchod, gallwn gymryd camau tuag at wasanaethau cyhoeddus mwy dynol i bawb. 

Jack Sargeant AS
Charlotte Waite