Mae cefnogaeth hyblyg yn fater o frys a rhaid i ni ystyried wythnos waith fyrrach os yr ydym i arbed swyddi ac ailadeiladu'r economi’n well, medd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae Sophie Howe a Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at Drysorlys y DU yr wythnos hon, yn annog y canghellor, Rishi Sunak, i ystyried cyflwyno wythnos waith fyrrach i arbed swyddi cyn i’r cynllun cymorth cyflogau ffyrlo ddod i ben ym mis Hydref.

Gan alw am ‘gefnogaeth hyblyg wedi’i thargedu’ yng nghyfnod nesaf yr adferiad er budd rhannau o’r economi sy’n parhau i gael eu heffeithio’n fawr gan y pandemig, mae’r llythyr yn pwyso ar y canghellor i lansio cynllun cadw swyddi sy’n amddiffyn swyddi ac yn blaenoriaethu llesiant.

Gallai model newydd, medd y comisiynydd a TUC Cymru, gyfuno wythnos waith fyrrach â pharhad y cymorth i gyflogau, i achub swyddi yn y sectorau sy’n dioddef fwyaf.

Dywed:

Rydyn ni eisiau i’r adferiad yn dilyn y pandemig gynorthwyo dulliau o weithio sy’n gwella llesiant, megis wythnos waith fyrrach â ganddi ystod o fanteision yn cynnwys gwella cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd gweithwyr, gwella iechyd, galluogi gweithwyr i ddatblygu sgiliau addas ar gyfer diwydiannau’r dyfodol yn ogystal â chynorthwyo’r farchnad swyddi.

Nid fydd aros i weld sut mae’r argyfwng yn parhau i ddatblygu a chaniatáu i fusnesau a gweithwyr syrthio dros y dibyn ar ddiwedd mis Hydref yn helpu ein hadferiad.

Dywedodd y Comisiynydd – sydd hefyd yn cefnogi Incwm Sylfaenol Cyffredinol a gwell cysylltedd i ganiatáu mwy o weithio o gartref ac sy’n annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu adferiad gwyrdd – bod meddwl yn greadigol yn hanfodol wrth i ni agosáu at ddirwasgiad a ragwelir.

Gallai hyblygrwydd mewn oriau gwaith hefyd amddiffyn busnesau yn yr hirdymor, drwy ganiatáu iddynt ddatblygu sgiliau sy’n addas ar gyfer diwydiannau’r dyfodol.

Ac mae’n golygu creu swyddi newydd da, hefyd. Dengys dadansoddiad diweddar TUC Cymru y gallai’r llywodraeth greu 59,000 o swyddi yng Nghymru mewn dwy flynedd drwy gyflymu buddsoddiad mewn seilwaith gwyrdd.

Gallai newid i economi gwyrdd greu 24 miliwn o swyddi’n fyd-eang erbyn 2030, yn ôl y Sefydliad Rhyngwladol Llafur (ILO).

Dywedodd y Comisiynydd: “Ni allwn fforddio aros am ddiweithdra torfol – gallwn ddod o hyd i well ffordd o gefnogi busnesau, achub swydd a gwella llesiant.

“Mae’r pandemig yn galw am ddulliau newydd o feddwl ac os yr ydym i amddiffyn swyddi nawr ac yn y dyfodol, mae’n rhaid i ni fod yn hyblyg a derbyn na fedrwn ddibynnu ar hen ymagweddau i ddatrys problemau newydd.

“Mae gweithio o bell a gweithio hyblyg wedi helpu i osgoi colli rhagor o swyddi yn ystod y cyfnod clo ac mae gennym y cyfle i ailosod ein harferion gwaith a bod yn uchelgeisiol.

Dywedodd Shavanah Taj o TUC Cymru: “Rhaid i Lywodraeth y DU weithredu nawr i amddiffyn a chreu swyddi.

“Mae hynny’n golygu adeiladu ar y cynllun ffyrlo trwy sefydlu bargen cadw swyddi ac uwchsgilio, i gadw pobl yn gyflogedig mewn cwmnïau sydd â dyfodol hyfyw.

“Rhaid i weithwyr ifanc, gan gynnwys y rhai sy’n mynd i fyd gwaith am y tro cyntaf, gael dyfodol credadwy o’u blaenau.

“Mae menywod sy’n gweithio yn y sector manwerthu a lletygarwch eisoes wedi cael eu taro’n galed gan y rownd bresennol o ddiswyddiadau. Mae angen cefnogaeth wedi’i thargedu nawr.

“Pan ddechreuodd yr argyfwng, dywedodd y canghellor y byddai’n gwneud ‘beth bynnag sydd ei angen’. Rhaid iddo gadw’r addewid honno.”

Treialodd cwmni yn Seland Newydd wythnos waith pedwar diwrnod, lle gwnaeth staff weithio am bedwar diwrnod, wyth awr, tra’n cael eu talu am bump, ac adroddwyd cynnydd mewn cynhyrchiant, gyda 78% o weithwyr yn teimlo’u bod yn medru rheoli eu cydbwysedd gwaith a bywyd yn llwyddiannus.

Mae dadansoddiad o Brifysgol Massachusetts yn dadlau petaem yn treulio 10% yn llai o amser yn gweithio, y byddai 14.5% o leihad yn ein hôl troed carbon, a hyn yn golygu y byddai diwrnod i ffwrdd o’r gwaith bob wythnos yn arwain at leihad o 30% yn ein hôl troed carbon.

Argymhellodd y Comisiynydd, a gyhoeddodd ei Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol ym mis Mai, wythnos waith fyrrach, gan ychwanegu: “Tra gallai wythnos waith fyrrach gadw swyddi yn y tymor byr gallai hefyd wella i raddau helaeth iawn y ffordd yr ydym yn byw yn yr hir dymor.

“Gallai rhoi yn ôl i bobl wyth awr yr wythnos ganiatáu iddynt wella eu sgiliau, cynorthwyo unigolion a chymunedau drwy wirfoddoli, gwneud ymarfer corff a threulio mwy o amser gyda phlant a theuluoedd. Gwyddom bod y pethau hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i iechyd unigolion a chymunedau a lleisant.

“Gwyddom hefyd bod llai o geir ar y ffordd fawr nid yn unig yn well i’r blaned ond gallai hefyd helpu i’n hamddiffyn rhag clefydau, diolch i’r lleihad mewn stres ac aer glanach.

“Mae’n rhaid i ni gymryd yr hyn a ddysgasom oddi wrth Covid-19 a’r argyfwng hinsawdd a’u rhoi ar waith, yn awr.

“Mae gan y newid yn y ffordd yr ydym yn ystyried gwaith y potensial nid yn unig i wella’r ffordd yr ydym yn byw heddiw – gallai achub swyddi a sicrhau bod yna fwy o gyfleoedd i’n plant a’n hwyrion a’n hwyresau.”

 

Llythyr llawn oddi wrth Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a TUC Cymru:

Annwyl Ganghellor,

Mae rhagolygon economaidd yn dangos bod bygythiad diweithdra torfol ar y gorwel os na fydd yna weithredu ar frys ar raddfa fawr.

Rydyn ni’n ysgrifennu i amlygu’r angen i adeiladu ar y cynllun cadw swyddi drwy barhau i gynorthwyo cyflogwyr â dyfodol hyfyw na fedrant weithredu i’w llawn botensial oherwydd cyfyngiadau’r firws.

Rydyn ni’n arbennig o bryderus am wahaniaethau daearyddol diweithdra yn y cyd-destun Cymreig, o gadw mewn golwg ein lefelau blaenorol o dlodi ac anghydraddoldeb a breuder y sector.

Dyna pam yr ydym yn cefnogi galwadau am gyflwyno cymorth hyfyw wedi ei dargedu, a fydd o fantais i’r rhannau hynny o’r economi sy’n parhau i gael eu heffeithio’n drwm gan y pandemig, yn cynnwys datblygu model sy’n cyfuno wythnos waith fyrrach â chymorth cyflog parhaus fel mecanwaith allweddol ar gyfer amddiffyn swyddi yn y sectorau sydd wedi dioddef fwyaf.

Gallai hyn gynnwys busnesau sydd wedi gorfod lleihau yn sylweddol nifer y staff sydd ganddynt yn gweithio ar y safle ar unrhyw adeg arbennig, y rhai sy’n parhau i wynebu cwymp dros dro mewn galw a’r rhai nad ydynt yn medru gweithredu i’w llawn botensial oherwydd cyfyngiadau parhaus.

Mae hyn yn cynnwys sectorau megis gweithgynhyrchu, y diwydiannau creadigol a lletygarwch.

Yn Nghymru mae gennym y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, darn unigryw o ddeddfwriaeth sy’n rhoi i ni’r uchelgais, y caniatâd a’r ddyletswydd gyfreithiol i wneud gwell penderfyniadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rydyn ni eisiau adferiad yn dilyn y pandemig i gefnogi ffyrdd newydd o weithio sy’n gwella llesiant, fel wythnos waith fyrrach ag ystod o fuddion gan gynnwys gwella cydbwysedd bywyd a gwaith gweithiwr, gwella iechyd, galluogi gweithwyr i ddatblygu sgiliau sy’n addas ar gyfer  diwydiannau’r dyfodol, ynghyd â chefnogi’r farchnad swyddi.

Pan oedd y cyfnod clo yn ei anterth, cafodd bron i draean o swyddi cymwys eu ffyrlo.

Tra bod hyn wedi lleihau’n sylweddol yn dilyn lleddfu’r cyfyngiadau a gallu busnesau i addasu, mae dau ddiwydiant (llety a bwyd, a chelfyddydau, adloniant a hamdden) yn gyson wedi gweld cyfran uwch o swyddi’n cael eu ffyrlo, ac mae’r sectorau hyn yn parhau i ddioddef yn fawr iawn o effaith yr argyfwng. Mae diwydiannau eraill – megis gweithgynhyrchu awyrofod – wedi gweld cwymp arwyddocaol yn y galw, gyda llawer o gyflogwyr eisoes wedi datgan diswyddiadau.

“Ni fydd aros i weld sut mae’r argyfwng yn parhau i ddatblygu a chaniatáu i fusnesau a gweithwyr syrthio dros y dibyn ar ddiwedd mis Hydref yn helpu ein hadferiad.”

Mewn ffaith, dim ond gwneud pethau’n waeth fyddai methu gweithredu yn awr.

Dangosodd y Cynllun Cadw Swyddi pa mor effeithol y gall ymyrraeth bendant a gweithredol y llywodraeth fod.

Yn ystod yr argyfwng economaidd, cyn i adferiad gychwyn, mae tystiolaeth wedi dangos bod cynlluniau gwaith amser-byr yn amddiffyn swyddi.

Credwn felly bod yn rhaid i gyfnod nesaf adferiad weld y math hwn o gynllun, wedi ei dargedu, yn cael ei gyflwyno i gynorthwyo busnesau a sefydliadau hyfyw sy’n parhau i gael eu heffeithio gan yr argyfwng, gyda ffocws ar wythnos waith fyrrach, wedi ei hwyluso gan gymorth cyflog a ariennir gan y wladwriaeth, i gadw swyddi yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU.

Yn gywir,

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru

 

Ymholiadau’r Cyfryngau: Claire Rees claire.rees@futuregenerations.wales