Fel rhan o Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau eleni (24 – 30 Ebrill) (1), mae Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi dod at ei gilydd i dynnu sylw at bwysigrwydd undod rhwng y cenedlaethau wrth i ni ddelio â’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu fel cymdeithas.

Maen nhw’n dweud bod llawer o faterion a phryderon cyffredin yn cael eu rhannu ar draws y cenedlaethau, a’i bod yn hanfodol cael cyfleoedd i bobl o wahanol oedrannau ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth, profiadau a syniadau er mwyn helpu i fynd i’r afael â phroblemau ac i gryfhau ein cymunedau.

Maent hefyd yn annog pawb i weithio gyda’i gilydd i roi diwedd ar y drafodaeth sy’n gosod cenedlaethau yn erbyn ei gilydd, er mwyn canolbwyntio mwy o’n egni ar uno cymdeithas i sicrhau newid a chynnydd.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Drwy ddod â gwahanol genedlaethau ynghyd rydw i’n credu y gallwn ni greu cymunedau cryfach a mwy cydlynus sy’n cefnogi pob un ohonom i heneiddio’n dda ac sy’n galluogi pobl o bob cenhedlaeth i gyflawni eu potensial.” Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddelio â’r heriau sydd o’n blaenau yn y tymor byr a’r tymor hirach.

“Ond yn rhy aml mae materion yn cael eu gosod mewn ffordd sy’n arwain at wrthdaro rhwng y cenedlaethau. Mae hyn yn rhwystr rhag symud ymlaen a gwneud gwelliannau a fyddai o fudd i bob un ohonom.

“Ar fater fel y Newid yn yr Hinsawdd, er enghraifft, rydyn ni’n gwybod bod lefelau pryder yn eithaf tebyg ar draws pob cenhedlaeth, ond nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y sylw sy’n cael ei roi i hyn. Yn hytrach, mae trafodaethau a dadleuon yn aml yn canolbwyntio, yn anghywir, ar densiynau honedig rhwng gwahanol grwpiau oedran ynghylch yr angen i fynd i’r afael â’r mater hwn, yn hytrach nag ar sut y gallwn ni fwrw ymlaen â’r polisïau a’r camau gweithredu sydd eu hangen.

“Gallwn gyflawni cymaint mwy pan fydd yna undod, a phobl o wahanol genedlaethau’n gweithio gyda’i gilydd ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd – gwelsom hyn drwy waith Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Undod Rhwng Cenedlaethau2 – felly rwy’n falch o fod yn gweithio gyda’r Comisiynwyr eraill i dynnu sylw at bwysigrwydd meithrin undod rhwng y cenedlaethau a chreu mwy o gyfleoedd i genedlaethau ddod at ei gilydd.”

Dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru:

O dlodi bwyd i’r newid yn yr hinsawdd, rwy’n clywed yn rheolaidd gan blant a phobl ifanc am bwysigrwydd gweithredu ar y materion hyn, a gweithio gyda phobl o bob oed a chefndir i gyflawni hyn.

“Wrth fynd o amgylch Cymru, rydw i wedi gweld cymaint o enghreifftiau gwych o undod rhwng y cenedlaethau a chymunedau’n gweithio gyda’i gilydd i ymateb i heriau cyffredin, ac rwy’n meddwl y dylen ni fod yn dathlu ac yn cefnogi hyn.”

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Mae Cymru yn lle mae’r gyfraith yn datgan y dylid cefnogi pawb i ffynnu, beth bynnag fo’u hoedran, eu cefndir neu eu hamgylchiadau.

“Gall cydweithio â phob cenhedlaeth, gwrando arnynt a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ein helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd, chwalu rhwystrau, dod o hyd i atebion hirdymor i’n problemau yn y gymuned a chreu Cymru y gallwn i gyd fod yn falch ohoni am genedlaethau i ddod.

“Mae prosiectau pontio’r cenedlaethau gwych eisoes ar waith ledled Cymru, ond mae angen i ni weld cefnogaeth ehangach yn cael ei rhoi i’r gweithredu hwn. Rwy’n annog pob corff cyhoeddus i gynnwys pob cenhedlaeth yn eu gwaith wrth iddynt ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i adael planed brafiach i’n plant a’n hwyrion fyw ynddi.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

Comisiynydd Plant Cymru

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am waith Comisiynydd Plant Cymru ar gael yma: https://www.complantcymru.org.uk/

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn gorff gwarchod annibynnol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, a’i rôl yw bod yn ‘warcheidwad’ pobl sydd heb gael eu geni eto yng Nghymru.

Mae’r Ddeddf yn gorfodi cyrff cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd i sicrhau gwell llesiant i bobl sy’n byw yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r comisiynydd newydd yn gweithio gyda phobl a sefydliadau gan gynnwys cyrff cyhoeddus, ar gynllun gwaith ei swyddfa yn y dyfodol. Gallwch ddysgu mwy am Ffocws Ein Dyfodol yma.

(1) Nod Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau yw ysbrydoli unigolion, grwpiau, sefydliadau, llywodraeth leol/genedlaethol, a chyrff anllywodraethol i gofleidio ymarfer sy’n pontio’r cenedlaethau yn llawn, ac mae’n darparu cyfleoedd i ddod o hyd i ffyrdd newydd creadigol ac effeithiol o ddod â’r cenedlaethau ynghyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://generationsworkingtogether.org/global-intergenerational-week

2 Sefydlwyd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Undod Rhwng Cenedlaethau ym mis Tachwedd 2020 i hybu undod a dealltwriaeth rhwng cenedlaethau, gan gynnwys prosiectau sy’n dod â chenedlaethau iau a hŷn at ei gilydd, ac i edrych ar dystiolaeth a datblygu cynigion polisi a fyddai o fudd i genedlaethau ieuengach a rhai hŷn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://busnes.senedd.cymru/mgOutsideBodyDetails.aspx?ID=695