Dywed Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru y dylid defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel amddiffynfa yn erbyn argyfyngau costau byw pellach yn y dyfodol.  

Mae Sophie Howe yn nodi pum syniad polisi ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfwng hirdymor, yn amrywio o drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i rai o dan 25 mlwydd oed i ehangu’r cynllun peilot incwm sylfaenol i dalu digon i gwrdd ag anghenion mwy o bobl o ddydd i ddydd. 

Dywedodd y comisiynydd ei bod yn cydnabod yr heriau ariannol anodd sy’n wynebu Llywodraeth Cymru ac y gallai archwilio’r polisïau hyn helpu i osgoi ymagwedd dros dro tuag at amddiffyn pobl yng Nghymru rhag cynnydd mewn caledi. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhybudd bod Cymru’n wynebu oes newydd o doriadau gwariant niweidiol oherwydd rhai o benderfyniadau economaidd Llywodraeth y DU, a fydd, dywedasant yn debygol o effeithio ar wasanaethau cyhoeddus ac arwain at golli swyddi. 

Canmolodd y comisiynydd ddatganiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru ar gynlluniau’n ymwneud â chreu cwmni ynni newydd i Gymru, gan ddefnyddio tir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru i gynhyrchu ynni glân a’r elw’n mynd yn ôl i’r pwrs cyhoeddus fel enghraifft o’r meddylfryd hirdymor arloesol sydd ei angen ar gyfer sicrhau bod Cymru’n cyflawni ei thargedau hinsawdd gan sicrhau cyflenwad ynni.  

Croesawodd Ms Howe y camau y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn eu cymryd ar ynni, gan fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac ôl-osod tai cymdeithasol, ond anogodd y Llywodraeth i ystyried sut y gellid gwneud mwy yn y meysydd hyn i amddiffyn yn erbyn costau byw a’r argyfyngau hinsawdd a natur yn y tymor byr a’r hirdymor.  

Mae cynigion polisi’r comisiynydd, llawer ohonynt yn cael eu hadleisio gan nifer o sefydliadau yng Nghymru, yn nodi dull y gellid ei ddefnyddio gan wneuthurwyr polisi i ymateb i’r argyfwng costau byw gan ganolbwyntio ar hirhoedledd a llesiant, i amddiffyn cymunedau rhag gweld y math hwn o argyfwng yn digwydd eto. 

Yn ddiweddar bu Ms Howe yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ymchwilwyr Llythrennedd y Dyfodol (FliNT) i gyhoeddi Cymunedau a Newid Hinsawdd yng Nghymru’r Dyfodol, i helpu pobl heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru – sydd mewn mwy o berygl wrth wynebu argyfyngau hinsawdd a natur – i ymgyfrannu mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu dyfodol.  

Datgelodd y prosiect ffordd gydgysylltiedig pobl o edrych yr argyfyngau hinsawdd a natur ochr yn ochr â’u hamgylchedd lleol a mynediad i fannau gwyrdd, gyda llawer o gyfranogwyr yn rhannu eu pryder o gael eu gadael ar ôl gan wasanaethau fel trafnidiaeth, wrth i Gymru gymryd y camau angenrheidiol i leihau llygredd aer. 

Fel y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf a’r unig un yn y DU, tasg Ms Howe yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus Cymru’n gweithredu heddiw ar gyfer yfory, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i’r dull y mae Cymru’n ei ddefnyddio i gyrraedd sero net i wella llesiant hirdymor hefyd. 

Awgryma’r comisiynydd y dylid ystyried ystod o bolisïau yng Nghymru fel mesurau hirdymor: 

  • Cynyddu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim gan gychwyn gyda phobl o dan 25 mlwydd oed. 
  • Ehangu’r rhaglen ôl-osod tai.  
  • Strategaeth fwyd genedlaethol hirdymor. 
  • Gweledigaeth hirdymor i bob cartref yng Nghymru fod yn hunangynhaliol mewn ynni a gwres. 
  • Cynllunio ariannol hirdymor i ledaenu’r cynllun peilot incwm sylfaenol. 

Mae Ms Howe wedi ymgynghori â sefydliadau gan gynnwys aelodau o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, a dywedodd er bod yn rhaid i gamau gweithredu mewn ymateb i’r argyfwng costau byw helpu pobl nawr, ei bod yn hanfodol bwysig eu bod hefyd yn helpu i atal argyfyngau fel hyn rhag ymddangos eto yn y dyfodol. 

“Mae anghydraddoldebau yn dyfnhau, gydag effaith anghymesur yr argyfwng costau byw yn disgyn ar fenywod, pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, ymfudwyr, pobl hŷn a phobl anabl,” meddai. 

“Yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa unigryw i wneud newid gwirioneddol i gymunedau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol – drwy ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i wneud i bob buddsoddiad weithio’n galetach yn awr ac yn ddiweddarach. Gallai Llywodraeth y DU ddysgu o’r ymagwedd hon yng Nghymru a gweithio’n agosach gyda Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn datrysiadau hirdymor sy’n gweithio i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol. 

“Mae’n rhaid i’r rhai sy’n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng fod yn rhan o’r datrysiad ac mae costau byw, natur ac argyfyngau hinsawdd yn gofyn am ymateb hirdymor fel y gallwn amddiffyn ein cymunedau yn ddigonol rhag niwed a allai fod hyd yn oed yn waeth yn y dyfodol.” 

DIWEDD 

 

 

NODIADAU I OLYGYDDION 

Adroddodd Sustrans yn ddiweddar bod dros hanner cartrefi’n wynebu tlodi trafnidiaeth ym mhob un ond dau o awdurdodau lleol yng Nghymru, ac ymunodd y comisiynydd yn y galwadau am drafnidaeth am ddim i bobl o dan 25 mlwydd oed. 

Canfu adroddiad Sophie Howe yn 2021, Tai addas ar gyfer y Dyfodol – yr Her Ôl-osod y gallai tlodi tanwydd gael ei ddileu erbyn 2030 gyda chynllun buddsoddi gwerth £15bn gan lywodraethau Cymru a’r DU, ac y gellid ei ddefnyddio i greu diwydiannau a sgiliau newydd,  

a hyd at 26,500 o swyddi newydd, meddai’r comisiynydd. 

Dywedodd y comisiynydd mai ei gweledigaeth hirdymor yw gweld pob cartref yng Nghymru’n hunan-gynhaliol mewn ynni a gwres, gyda phobl yn cael dweud eu dweud mewn penderfyniadau ar gynhyrchu ynni lleol adnewyddol a systemau gwres ardaloedd ar gyfer atal argyfwng costau byw yn y dyfodol drwy ein dibyniaeth ar danwydd ffosil.  

O ran bwyd, mae hi’n awgrymu strategaeth fwyd hirdymor y tu hwnt i’r flwyddyn nesaf i hyrwyddo dietau iach a chynaliadwy, y rhaglen prydau ysgol am ddim adeg gwyliau a phartneriaethau bwyd lleol traws-sector. Dywedodd y gallai Llywodraeth Cymru edrych ar integreiddio llawer o’i hymyriadau blaengar yn y system fwyd drwy gynhyrchu strategaeth fwyd genedlaethol, sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. 

Yr haf hwn, lansiwyd cynllun peilot incwm sylfaenol arloesol Cymru ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal gan dalu £1,600 y mis i’r rhai sy’n gadael gofal, ac roedd Ms Howe yn gobeithio cyflwyno’r cynllun tymor hwy a fyddai’n amddiffyn hyd yn oed mwy o bobl rhag y cynnydd mewn costau. Ailadroddodd Ms Howe ei chanfyddiadau y gallai incwm sylfaenol haneru tlodi yng Nghymru. 

Sophie Howe will be attending COP 27 in Egypt this November. For more information, contact Claire Rees. 

Media enquiries: Claire.rees@futuregenerations.wales 

Bydd Sophie Howe yn mynychu COP 27 yn yr Aifft ym mis Tachwedd eleni. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Claire Rees a Rachel Everington.

Ymholiadau cyfryngau: